Galw am orfodi ysgolion i gofnodi pob achos o fwlio

  • Cyhoeddwyd
BwlioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Bullies Out eisiau i Gymru fabwysiadu trefn ddaeth i rym yng Ngogledd Iwerddon y llynedd

Mae elusen yn galw am newid cyfraith er mwyn cofnodi pob achos o fwlio yn ysgolion Cymru.

Yn ôl Bullies Out, dim ond trwy fynd i'r afael â bwlio mewn ffordd gyson y mae'n bosib cael darlun llawn a chywir o faint y broblem.

Ond mae undeb prifathrawon Cymru wedi mynegi amheuaeth ai creu dyletswydd gyfreithiol yw'r ateb.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn adolygu polisi sydd ond rhoi dyletswydd gyfreithiol i ysgolion gofnodi achosion yn ymwneud â hiliaeth.

'Cysondeb'

Yn ôl sylfaenydd elusen Bullies Out, Linda James, mae angen "cysondeb" o ran diffiniad y term "bwlio".

Dywedodd bod cyfraith gafodd ei chyflwyno yng Ngogledd Iwerddon - sy'n gorfodi ysgolion i gadw cofnod llawn o achosion o fwlio - yn "un dda".

"Byddai cofnodi pob achos, efallai, yn fodd i gael ystadegau sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd," meddai Ms James.

"Mae rhai ysgolion yn mynd ati o ddifri' i fynd i'r afael â bwlio, ond rydym hefyd yn ymwybodol bod eraill yn methu.

"Petai 'na ffordd gyson o gofnodi achosion ym mhob ysgol, fe allai wneud pethau'n haws i ysgolion yn gyffredinol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth fforwm yng Ngogledd Iwerddon i'r casgliad bod ysgolion yn cael traferth arbennig i ddelio gyda bwlio ar-lein

Daeth cofnodi achosion o fwlio yn ddyletswydd gyfreithiol yng Ngogledd Iwerddon y llynedd i ysgolion.

Roedd hynny wedi i fforwm a sefydlwyd i fynd i'r afael â'r broblem ddod i'r casgliad bod ysgolion yn gwneud eu gorau i weithredu, ond bod safon yr ymateb yn amrywio.

Dywedodd cyn-gadeirydd y fforwm, Dr Noel Purdy: "Doedd rhai ysgolion ddim yn delio â rhai mathau o fwlio. Roedd eu diffiniadau o fwlio yn amrywio.

"Roedd 'na drafferth yn arbennig o ran delio â bwlio ar-lein, ac roedd ysgolion yn crefu am arweiniad."

Angen 'defnyddio gwybodaeth i warchod plant'

Yng Nghymru, mae'n statudol i ysgolion gael polisi ymddygiad ysgol, ond does dim gofyn cyfreithiol iddyn nhw gofnodi achosion o fwlio.

Mewn ymateb i alwad Bullies Out, mae undeb y prifathrawon, NAHT Cymru, yn cwestiynu a fyddai polisi o'r fath yn llwyddo.

Dywedodd cyfarwyddwr polisi'r undeb, Rob Williams: "Yn amlwg, mae bwlio o unrhyw fath yn hollol annerbyniol, ac mae arweinwyr ysgol yn ceisio delio â'r peth yn ddyddiol.

"Mae'n hawdd deall y rhesymau y tu ôl i'r alwad, ond y peth pwysicaf yw'r defnydd o'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu.

"Mae yna berygl o ganolbwyntio ar y broses gofnodi, yn hytrach na defnyddio'r wybodaeth yn effeithiol. Defnyddio gwybodaeth i warchod plant sy'n bwysig."

Adolygiad polisi

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gofyn statudol i ysgolion gofnodi achosion o hiliaeth, gan gynnwys bwlio hiliol.

"Er bod dim gofyn cyfreithiol i ysgolion gofnodi mathau eraill o fwlio, mae llawer yn gwneud hynny, ac rydym yn annog hynny o ran ymarfer da.

"Mae ein canllaw, Parchu Eraill, yn rhoi arweiniad a chyngor ymarferol o ran atal ac ymateb i achosion o fwlio mewn ysgolion.

"Rydym wrthi'n adolygu'r polisi yma i'w wneud mor gadarn â phosib, ac mae cofnodi gwybodaeth yn cael ei ystyried fel rhan o hwnnw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae mam y ferch ysgol Nyah James, fu farw ym mis Chwefror, wedi honni ei bod yn cael ei bwlio

Yn gynharach ym mis Mawrth, fe gafodd angladd disgybl 14 oed o Abertawe, Nyah James, ei gynnal.

Mae ei mam, Dominique Williams, yn honni iddi ladd ei hun o ganlyniad cael ei bwlio yn yr ysgol.

Dywedodd: "Bob diwrnod, mae'n torri ein calonnau ei bod hi wedi mynd drwy'r fath boen, a ninnau'n gwybod dim am y peth."

Yn ôl llefarydd Heddlu De Cymru, mae ymchwiliad yn parhau i farwolaeth Nyah James, ond does dim tystiolaeth hyd yn hyn mewn perthynas â honiadau o fwlio.

Mae'r achos wedi ei gyfeirio at grwner, ac mae cwest wedi ei agor a'i ohirio tan 5 Gorffennaf.