Galwad am uned iechyd meddwl i famau

  • Cyhoeddwyd
beichiogFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae galwadau i ail sefydlu uned iechyd meddwl arbenigol ar gyfer mamau a babanod yng Nghymru.

Dywedodd elusen Mind Cymru bod rhai mamau yn gorfod teithio am o leiaf dair awr i Loegr i gael triniaeth, ar ôl i'r uned olaf o'i fath yng Nghymru, gau yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd at 2013.

Mae'r AC Plaid Cymru, Steffan Lewis, wedi disgrifio'r sefyllfa fel "sgandal".

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "hanfodol" i gynnig cymorth yn ystod beichiogrwydd drwy dynnu sylw at y gwasanaethau cymunedol sydd ar gael.

Mae unedau mamau a babanod (UMB) yn darparu gofal arbenigol i fenywod sydd â phroblemau iechyd meddwl fel iselder ôl-enedigol difrifol a seicosis ôl-enedigol.

Dywedodd Mind Cymru bod 10-15% o famau newydd yn datblygu iselder ôl-enedigol, sydd fel arfer yn datblygu o fewn chwe wythnos o roi genedigaeth, a'i fod yn gallu dod ar raddol neu'n sydyn.

Dywedodd yr uwch swyddog polisi Rhiannon Hedge: "Gan nad oes cefnogaeth yma yng Nghymru, mae mamau yn gorfod cael eu trin llawer o filltiroedd i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd a'u rhwydweithiau cymorth."

Dywedodd bod yr arian a fuddsoddir mewn gofal cymunedol yn cael ei groesawu, ond "nad yw cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', yn mynd yn ddigon pell wrth fynd i'r afael â'r bylchau sy'n bodoli".

Ffynhonnell y llun, BBC

Canfu cais o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth fod y corff sy'n comisiynu gwasanaethau arbenigol y GIG, Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru, wedi amcangyfrifir y bydd y gost o anfon mamau i unedau tu allan i Gymru yn £377,000 eleni.

Ond papur gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, fod £307,000 wedi ei ryddhau yn dilyn cau'r uned arbenigol yng Nghaerdydd.

Dywedodd Mr Lewis fod "galw amlwg yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau amenedigol" a dywedodd nad yw cau wedi bod yn "gost effeithiol".

"Mae'n sgandal fod yna bobl sydd ag anghenion iechyd meddwl go iawn, a tydi eu hanghenion ddim yn cael eu diwallu'n llawn yn y wlad hon," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr uned yng Nghaerdydd wedi cau oherwydd nifer annigonol o ferched oedd yn defnyddio'r gwasanaeth.

Ychwanegodd: "Y llynedd, fe gyhoeddom y bydd gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol newydd yn cael ei sefydlu o fewn pob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac fe fydd £1.5 miliwn ar gael fel buddsoddiad newydd.

"Bydd y gwasanaethau arbenigol newydd yn y gymuned yn helpu i wella canlyniadau iechyd meddwl i fenywod sydd â salwch amenedigol, eu babanod a'u teuluoedd.

"Mae'r GIG yn derbyn adroddiadau bod mwy na 1,500 o fenywod wedi cael eu cyfeirio at y gwasanaethau cymunedol newydd ers mis Ebrill 2016 ac rydym yn disgwyl i'r ffigurau i gynyddu'n sylweddol wrth i wasanaethau gael eu sefydlu."