Ailagor rheilffordd Dyffryn Conwy ym mis Ebrill
- Cyhoeddwyd
Bydd rheilffordd yng Ngwynedd sydd ar gau ers mis Chwefror yn ailagor tua chanol Ebrill.
Mae angen i Network Rail dynnu 300 tunnell o greigiau o wyneb craig er mwyn gwneud y rheilffordd sy'n cysylltu Blaenau Ffestiniog a Llandudno yn ddiogel unwaith eto.
Mae'r llinell ar gau ar ôl i goeden fawr syrthio ar y trac rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog yn ystod Storm Doris.
Ers hynny, mae gwasanaeth bws wedi bod yn gweithredu yn yr ardal.
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail bod peirianwyr wedi bod yn cennu wyneb y graig i dynnu "llystyfiant a chreigiau ansefydlog".
"Oherwydd y mynediad cyfyngedig i'r safle ac mai rheilffordd trac sengl sydd yma... nid yw peirianwyr wedi gallu defnyddio peiriannau a ddefnyddir fel arfer ar gyfer gwaith atgyweirio tebyg," meddai'r llefarydd.