Cwest i farwolaeth Sandie Bowen aeth ar goll yn 1997

  • Cyhoeddwyd
Sandie Bowen

Cafodd cwest ei gynnal ddydd Llun i farwolaeth Sandie Bowen, gafodd ei llofruddio gan ei gŵr yn 1997.

Clywodd Llys Crwner Casnewydd bod gweddillion Ms Bowen wedi eu darganfod ar 1 Chwefror eleni yng nghronfa ddŵr Coed Gwent.

Aeth Ms Bowen, 54, ar goll o'i chartref yn Sir Fynwy ym mis Awst 1997.

Fe gafodd Llys y Goron Caerdydd ei gŵr Michael Bowen yn euog o'i llofruddio yn 1998.

Lladd yn anghyfreithlon

Clywodd y crwner ddydd Llun bod gweddillion Ms Bowen wedi eu darganfod yn sownd i sinc yn y gronfa, yn dilyn galwad gan aelod o'r cyhoedd. Doedd y gronfa heb gael ei gwagio ers canrif.

Profion DNA a chofnodion deintyddol wnaeth gadarnhau mai gweddillion Ms Bowen oedden nhw.

Daeth prawf post-mortem i'r casgliad bod achos marwolaeth Ms Bowen yn "ansicr".

Ond dywedodd uwch grwner Gwent, David Bowen, bod Ms Bowen wedi ei "lladd yn anghyfreithion" ar y sail bod rhywun eisoes wedi ei gael yn euog mewn llys arall.

Fe gafodd y corff ei ryddhau i'r teulu fel bod modd cynnal angladd.