Ymchwilio i gytundebau pwerdai Trawsfynydd a Wylfa

  • Cyhoeddwyd
trawsFfynhonnell y llun, Magnox
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith o ddad-gomisiynu Trawsfynydd a Wylfa yn parhau

Mae Llywodraeth y DU wedi atal cytundeb ariannol gwerth £6bn i ddadgomisiynu 12 pwerdy niwclear yn dilyn diffygion mewn proses dendro.

O ganlyniad i'r helynt, mae'r llywodraeth wedi talu £100m mewn iawndal i ddau gwmni.

Dywedodd y Gweinidog Ynni, Greg Clark, y byddai ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal, gyda'r posibilrwydd o gymryd camau disgyblu i ddilyn.

Roedd y cytundeb ariannol yn ymwneud â 12 pwerdy Magnox, gan gynnwys Wylfa ar Ynys Môn, a Thrawsfynydd yng Ngwynedd.

Cytundeb 14 mlynedd

Yn 2014 rhoddwyd cytundeb 14 mlynedd i bartneriaeth Cavendish Fluor i reoli a dad-gomisiynu'r gorsafoedd.

Ond yn ôl y gweinidog ynni doedd y gwaith yn y cytundeb tendr ddim yn cyfateb i'r gwaith oedd angen ei wneud.

Fe ddaeth y gweinidog i'r casgliad fod nam sylweddol yn y broses dendro a bod hyn wedi arwain at gostau ychwanegol sylweddol.

'Diffyg gallu'

Dywedodd Mike Clancy, ysgrifennydd undeb Prospect: "Mae hyn yn sefyllfa ryfeddol o gofio pwysigrwydd a maint y cytundeb Magonx i'r diwydiant niwclear.

"Bydd y cyhoedd a'n haelodau yn awyddus i gael eglurhad a sicrwydd ynglŷn â dyfodol y broses gomisiynu."

Mae'r wrthblaid yn San Steffan wedi herio gallu'r llywodraeth i ddelio â'r cytundeb ac wedi cwestiynu eu strategaeth dadgomisiynu niwclear.

Dywedodd llefarydd Llafur ar ynni Rebecca Long-Bailey: "Mae'r llywodraeth wedi dangos lefelau dramatig o ddiffyg gallu".

Mae disgwyl i'r gwaith ymarferol o ddadgomisynu'r safleoedd niwclear barhau wrth i'r llywodraeth geisio datrys yr anghydfod ariannol.