'Angen £600m i gael ffyrdd Cymru yn ôl i safon resymol'
- Cyhoeddwyd
Byddai'n cymryd naw mlynedd ac yn costio bron i £600m i gael holl ffyrdd Cymru yn ôl i safon resymol, yn ôl adroddiad.
Mae Adroddiad Blynyddol Cynnal Ffyrdd Awdurdodau Lleol yn dweud bod cyllid cynghorau Cymru ar gyfer y ffyrdd mewn diffyg o £3.7m ar gyfartaledd.
Yn ôl yr adroddiad, byddai'n costio £591.5m - £26.9m i bob awdurdod lleol ar gyfartaledd - i gael ffyrdd y wlad yn ôl i safon resymol.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) bod £172m yn rhagor wedi'i fuddsoddi yn ffyrdd Cymru rhwng 2012 a 2015.
'Degawdau o dan-gyllido'
Mae'r adroddiad gan yr Asphalt Industry Alliance yn dweud bod ffyrdd lleol yng Nghymru a Lloegr yn agos at "ddirywiad terfynol" o ganlyniad i "ddegawdau o dan-gyllido".
Mae'n amcangyfrif bod 18% o ffyrdd Cymru â llai na phum mlynedd ar ôl nes y byddan nhw angen wyneb newydd, neu hyd yn oed gael eu cau.
Ar gyfartaledd, unwaith pob 63 mlynedd mae ffordd yn cael wyneb newydd yng Nghymru.
'Argyfwng'
Dywedodd Bridget Fox o'r Campaign for Better Transport bod yr arolwg yn "profi bod argyfwng yn parhau gyda chyflwr ein ffyrdd".
"Byddai gwario ar drwsio ffyrdd presennol, yn hytrach na rhoi biliynau ar ffyrdd newydd dieisiau, yn cynnig mwy o werth am arian ac yn cael canlyniadau ynghynt," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran CLlLC bod cynghorau a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ar gynllun Menter Benthyca Llywodraeth Leol (MBLlL), "welodd £172m yn rhagor yn cael ei fuddsoddi yn ffyrdd Cymru rhwng 2012/13 a 2014/15".
"Arweiniodd hyn at ostyngiad yn y gyfran o'r ffyrdd sydd mewn cyflwr gwael a darparodd fuddsoddiad mwy hirdymor oedd yn galluogi'r gwaith o roi wynebau newydd ar ffyrdd, yn hytrach na'u trwsio dros dro," meddai'r llefarydd.
"I gynnal gwelliannau fel hyn mae'n rhaid cael buddsoddiad parhaol ac mae CLlLC wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru am y posibilrwydd o fwy o'r MBLlL i gynnal a gwella cyflwr y rhwydwaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd10 Awst 2016