Chwilio am ddyn ar amheuaeth o lofruddio yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Jordan James Lee DavidsonFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n credu bod Jordan James Lee Davidson yn ardal Wrecsam

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am ddyn 25 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Wrecsam.

Y dyn dan sylw ydy Jordan James Lee Davidson, ac mae swyddogion yn credu ei fod dal yn yr ardal.

Cafodd yr heddlu eu galw am 08:23 fore Llun i gyfeiriad ar Glôs Cilgant yn Wrecsam, lle cafwyd hyd i gorff Nicholas Anthony Churton, 67 oed.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Iestyn Davies: "Cafwyd hyd i gorff Mr Churton fore dydd Llun ac rwy'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal yna o brynhawn Iau 23 Mawrth ymlaen.

"Fy nghred i ydy fod Mr Churton wedi ei ladd rhyw ben rhwng 14:45 ddydd Iau a hanner nos ar nos Wener 24 Mawrth.

"Mae archwiliad post mortem wedi cadarnhau fod Mr Churton wedi marw o drawma sylweddol i'w ben ac fe fydd mwy o wybodaeth yn cael ei ryddhau mewn amser.

"Rwy'n awyddus iawn i siarad gyda rhywun sydd wedi clywed neu weld ffrwgwd yng Nghlôs Cilgant neu oedd wedi gweld Mr Davidson rhwng 14:30 ar ddydd Iau 23 Mawrth a bore dydd Llun, 27 Mawrth."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Glôs Cilgant yn Wrecsam fore Llun

Ardal Wrecsam

Ychwanegodd y Ditectif Uwcharolygydd Davies: "Rwy'n credu fod Jordan Davidson rhywle yn ardal Wrecsam a'r allwedd i ddod o hyd iddo ydy gwybodaeth gan y cyhoedd.

"Roedd Mr Churton yn byw ar ei ben ei hun ac roedd ganddo anableddau. Roedd yn ddyn gwirioneddol fregus.

"Gallaf gadarnhau fod y cyrchoedd diweddar ar Stryd Vernon yn Wrecsam ac yn Hen Golwyn yn gysylltiedig gyda'r ymchwiliad.

"Mae dyn 35 oed a dynes 27 oed - ill dau o Hen Golwyn, a dyn 27 oed o Wrecsam wedi eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr."

Dywedodd na ddylai aelodau'r cyhoedd gysylltu gyda Mr Davidson gan y gallai fod gydag arfau yn ei feddiant.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddefnyddio'r cyfeirnod V042465.