Cynnydd yn achosion trais yn y cartref rhwng 2013 a 2015

  • Cyhoeddwyd
camdrin domestig

Mae yna gynnydd o o leiaf 23% o achosion o drais yn y cartref wedi eu cofnodi yng Nghymru rhwng 2013 a 2015 yn ôl ystadegau newydd.

Fe ddaw'r wybodaeth gan dri o luoedd heddlu Cymru wrth i ganllawiau drafft newydd ar ddedfrydu pobl sy'n eu cael yn euog o drais yn y cartref gael eu cyhoeddi.

Mae elusen i fenywod wedi galw am gyflymu'r broses o gyflwyno deddfwriaeth 2015 ar drais o'r fath.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnal ymgyrchoedd effeithiol sydd wedi arwain at well ymwybyddiaeth a chynnydd yn yr achosion sy'n cael eu cofnodi.

Canolfan arbenigol

Mae ffigyrau sydd wedi cyrraedd BBC Cymru yn dangos bod cyfanswm yr achosion o drais a chamdriniaeth domestig gafodd eu cofnodi wedi codi o 8,272 yn 2013 i 10,230 yn 2015.

Mae hynny yn gynnydd o 23% o fewn ardaloedd lluoedd Dyfed Powys, Gwent a Gogledd Cymru.

Does dim sicrwydd bod y troseddau a gofnodwyd wedi arwain at gosbi ym mhob achos.

Doedd dim modd cymharu ffigyrau Heddlu'r De gyda'r lluoedd eraill, ond roedd yna gynnydd o 48% yn y troseddau camdrin domestig gafodd eu cofnodi rhwng 2012/13 (6,339) i 2014/15 (9,396)

Ffynhonnell y llun, PA

Profiad cwpwl

Mae un cwpwl wedi dweud wrth BBC Cymru bod eu perthynas dreisgar wedi gwella wedi iddyn nhw gael help gan ganolfan arbenigol.

Dywedodd Sarah ei bod wedi dechrau cweryla yn aml gyda'i phartner Mark fyddai'n ymosodol tuag ati. Nid dyma eu henwau cywir.

"Fe aeth yn waeth ac yn waeth", meddai.

"Y tro diwethaf, fe gydiodd yn fy ngwddf a dyna yr hoelen olaf - dyna ni."

Oherwydd ei bod hi'n poeni y gallai gael ei lladd, fe gysylltodd Sarah gyda'r heddlu.

Roedd hi'n gobeithio cael help, er nad oedd hi am i Mark gael ei arestio.

Mae Mark yn credu i'w orffennol ddylanwadu ar ei ymddygiad.

"Dwi ddim yn gwbod o ble y daeth y gynddaredd. Efallai colli fy mam-gu a fy nhad-cu yw'r ffactor fwya. Wrth fod yn blentynaidd, wrth beidio cael fy ffordd, fe fydden i'n colli fy nhymer."

Ychwanegodd: "Fydden i'n teimlo'n ofnadwy am y ffordd o ni'n trin fy mhartner. Does dim geiriau i egluro pa mor wael o ni'n teimlo wedyn, ond, yn amlwg fe ddigwyddodd eto.

"Nes i ddim dysgu o fy nghamgymeriadau. Ond nawr dwi wedi gwneud."

Ddydd Iau mae'r Cyngor Dedfrydu yn cyhoeddi canllawiau drafft ar droseddau o'r math yma.

Bydd ymgynghoriad ar yr argymhellion.

Dyma'r tro cyntaf i ganllawiau gynnwys troseddau fel stelcio, datgelu delweddau rhyw preifat, a rheoli neu annog ymddygiad.

Mae Stonewall Cymru yn dweud bod gwaith ymchwil yn awgrymu bod hanner dynion hoyw neu ddeurywiol Cymru wedi cael o leiaf un profiad o gamdrin domestig gan bartner neu aelod o'r teulu o 16 oed, tra bod 34% o lesbiaid a menywod deurywiol wedi diodde camdrin domestig.

Gwella bywydau dioddefwyr

Cafodd y ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ei chyflwyno ddwy flynedd yn ôl er mwyn atal camdriniaeth ar sail cenedl neu rhyw.

Dywedodd Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White: "Er mwyn taclo trais a chamdriniaeth yn ein holl gymunedau, rhaid i'r heddlu a gwasanaethau cymorth barhau i annog pobl i reportio, darparu hyfforddiant i staff ar anghenion dioddefwyr amrywiol a gwneud yn glir bydd pob achos yn cael ei drin mewn modd sensitif a phriodol."

Mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi galw am gyflymu'r broses drwy gyflwyno rhannau o'r gyfraith sy'n annog Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff eraill i gydweithio i wella bywydau dioddefwyr.

Dywed Gwendolyn Sterk o'r elusen: "I ni'n poeni bod rhai awdurdodau lleol a sefydliadau addysgiadol dal ddim yn ymwybodol o fanylion y ddeddf."

"I ni am i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i wybod mwy am y ddeddf a deall beth yw eu dyletswyddau, a defnyddio'r canllawiau pan fyddan nhw'n dod i rym."

Ymgyrchoedd 'effeithiol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nod ein hymgyrchoedd yw i addysgu pobl am faterion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, trais yn y cartref a thrais rhywiol, ac maen nhw wedi canolbwyntio ar ddioddefwyr a throseddwyr fel ei gilydd, yn eu hannog i chwilio am gymorth a chefnogaeth.

"Mae ymgyrchoedd effeithiol yn arwain at well ymwybyddiaeth a chynnydd yn yr achosion sy'n cael eu cofnodi.

"Rydym wedi gwneud cynnydd da wrth weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ers iddi gael ei chyflwyno ac rydym wedi penodi Cynghorwr Cenedlaethol i weithio ar draws Cymru a gyda'r sector cyhoeddus a mudiadau trydydd sector er mwyn gwella'r ymateb i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, trais yn y cartre a thrais rhywiol."