Colli 139 o swyddi ar dri champws Prifysgol De Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cardiff CampusFfynhonnell y llun, Google Maps

Gallai hyd at 139 o swyddi gael eu colli ar draws tri champws Prifysgol De Cymru wrth i'r sefydliad geisio delio â chostau cynyddol.

Mae staff ar draws pob adran a phob cyfleuster yn Nhrefforest, Casnewydd a Chaerdydd yn cael eu heffeithio.

Mae'r swyddi fydd yn cael eu colli yn cynrychioli 4.6% o holl weithlu'r brifysgol.

Dywedodd y brifysgol bod torri'r swyddi yn hanfodol oherwydd bod costau'n cynyddu, ond bod ei hincwm wedi aros ar yr un lefel.

"Mae Prifysgol De Cymru yn gynaliadwy ac mewn sefyllfa dda yn ariannol," meddai llefarydd.

'Parhau i fuddsoddi'

"Er ein bod wedi cynnal nifer ein myfyrwyr o'r DU, rydyn ni mewn marchnad lle mae nifer y bobl sy'n mynd i brifysgol yn gostwng, a bydd recriwtio o dramor yn cael ei effeithio gan Brexit."

Ychwanegodd y llefarydd nad oedd y brifysgol yn fodlon peryglu ei sefyllfa ariannol trwy gadw gormod o staff tra bod eu costau'n cynyddu.

"Dydyn ni ddim yn barod i adael i hynny ddigwydd oherwydd ein bod eisiau parhau i fuddsoddi mewn staff, cyrsiau a chyfleusterau fel y gallwn ni ffynnu a chystadlu," meddai.

Dywedodd y brifysgol eu bod yn ymgynghori gydag undebau a rheolwyr ac y byddai diswyddiadau gwirfoddol yn cael eu hystyried.

Rhybudd

Dywedodd Jo Stevens, Aelod Seneddol Canol Caerdydd fod y cyhoeddiad yn siomedig iawn.

"Fe gawson ni'n rhybuddio y byddai gostyngiad yng ngheisiadau myfyrwyr, yn enwedig o'r UE, yn bosibilrwydd cryf yn dilyn Brexit, ac yn anffodus dyma sydd wedi digwydd, gyda nifer y cofrestriadau i lawr ym mhob prifysgol yng Nghymru," meddai.

"Mae Prifysgol De Cymru, sydd â champws yn fy etholaeth, yn rhan werthfawr o'r sector addysg uwch yng Nghymru, ac yn rhoi cyfleoedd i filoedd o fyfyrwyr.

"Byddaf yn cydweithio'n agos gyda'r brifysgol ac undeb yr UCU, ac rwyf ar gael i siarad ag unrhyw un o'm hetholwyr sy'n gweithio i'r brifysgol os yw'r cynlluniau hyn yn effeithio arnyn nhw."