Cyhoeddi enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Aled Rees a Rhinedd Williams o Sir Gâr sydd wedi ennill Tlws John a Ceridwen Hughes yr Urdd eleni.
Mae'r wobr yn cael ei rhoi yn flynyddol am "gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru".
Mae Rhinedd, sy'n fam i dri o blant, yn wreiddiol o Sir Benfro ond bellach yn byw yn Llanddarog, ac mae Aled yn dad i bedwar o blant ac yn byw ym Mhorthrhyd.
Penderfynodd y ddau sefydlu Adran Neuadd Fach yng Nghwm Gwendraeth 10 mlynedd yn ôl am eu bod yn gweld angen adran yr Urdd i blant a phobl ifanc yn yr ardal.
Mae'r ddau bellach yn arwain adran ac uwch adran ar gyfer plant cynradd ac uwchradd yn wythnosol, yn hyfforddi plant yn flynyddol ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ac yn mynd ar deithiau i wersylloedd yr Urdd.
Mae adrannau hefyd yn cynnal digwyddiadau fel cyngherddau yn y gymuned ac wedi codi arian at achosion da.
'Mewn sioc'
"Doedd gen i ddim syniad o gwbl ein bod wedi ennill, a dwi dal mewn sioc," meddai Rhinedd.
"Rydym wedi gweld pobl eraill yn cael y wobr gan feddwl 'dyna braf', ond erioed wedi dychmygu y byddem ni yn ei derbyn ac yn hynod falch fod ein gwaith yn cael ei werthfawrogi.
"Dydyn ni ddim yn ei wneud er mwyn cael diolch ond pan fydd gwobr fel hyn yn cael ei chynnig, mae'n golygu lot."
Ychwanegodd Aled y dylai mwy o gyn-aelodau ddilyn eu hesiampl nhw a chychwyn adrannau ac aelwydydd yn eu cymunedau.
"Yn ein hardal ni, un peth sydd wedi llonni fy nghalon yw sut mae y to hŷn nawr wedi dechrau cynorthwyo yn yr adran," meddai.
"Er enghraifft mae dwy o'n haelodau eleni yn cyfeilio ar gyfer y dawnswyr gwerin bach, ac mae hynny yn rhoi gymaint o falchder i mi a gweld y rhai bach yn perfformio ar y llwyfan."
Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei rhoi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.