Y gwir am wraig 007
- Cyhoeddwyd
Roedd y gantores o Gymru, Dorothy Squires yn un o berfformwyr enwoca' Prydain yn y 1940au a 1950au. Yn 1953 fe briododd yr actor Roger Moore a byw bywyd moethus gan gymysgu â sêr mawr Hollywood.
Un oedd yn ei hadnabod yn dda ac yn ffrind agos iddi hi oedd yr actor a'r dawnsiwr Johnny Tudor. Mae e nawr wedi sgwennu llyfr My Heart is Bleeding amdani hi. Bydd ei atgofion dan sylw yn Stiwdio ar Radio Cymru ar 12 Ebrill.
Bu Johnny hefyd yn dweud peth o stori'r gantores a gafodd ei geni mewn carafán ym Mhontyberem wrth Cymru Fyw:
Cwrddes i â Dot pan o'n i'n ifanc iawn. Fe aeth hi o Gymru i Lundain pan oedd hi'n 16 oed, i ddilyn ei breuddwyd i fod yn gantores enwog. Roedd fy nhad [Bert Cecil] yn bianydd, ac roedd e'n y swyddfa pan ddaeth hi i mewn i'w audition cyntaf.
Fe chwaraeodd y piano iddi yn yr audition hwnnw, ac ar ôl hynny, cafodd hi ei swydd gyntaf yn Llundain. Rwy' wedi ei nabod hi trwy fy mywyd.
Pan es i i Lundain am y tro cynta' i weithio, cefais wahoddiad gan Dot i aros gyda hi yn ei thŷ mawr. Roedd yn balas gyda 22 stafell a phwll nofio. Dyna'r math o berson oedd hi, roedd hi'n generous iawn.
Ar ddechrau'r 1970au, arhosais gyda hi am tua blwyddyn, roedd hi'n taflu lot o bartis gyda sêr mawr fel Shirley Bassey, Frankie Vaughan a Tony Hatch. Un noson r'on i'n eistedd yn y parti, drws nesa' i rhyw ddyn.
Oedd e'n edrych dipyn bach yn ddiddorol efo gwallt cyrliog a sbectol dywyll, a pwy oedd e ond Phil Spector! Roedd yn enw mawr iawn ar y pryd, ond mae e'n y carchar erbyn hyn, wrth gwrs.
Rhwymo i Bond
Roedd Dorothy yn nabod pawb yn y byd showbusiness a dyna sut wnaeth hi gyfarfod â Roger Moore. Er ei bod hi 12 mlynedd yn henach na fe, fe ddaeth i'w thŷ i un o'i phartïon un noson, ac fe syrthiodd mewn cariad ag ef.
Fe wnaeth hi helpu gyrfa Roger Moore. Aeth hi gyda fe i Los Angeles yn 1953 ac fe fuon nhw'n byw yn Hollywood am saith mlynedd. Fel roedd hi'n dweud, I could open the doors for him but he had to walk through them.
Unwaith gwrddais i â Roger Moore. Dwi'n cofio, yn 1962, r'on i'n cerdded lawr y lôn gyda fy nhad a phwy oedd yn dod i gyfarfod â ni oedd ef a Dorothy Squires. Roedd Roger yn actio yn The Saint ar y pryd, oedd e'n ddyn neis, yn ddoniol hefyd.
Wedi blynyddoedd tymhestlog yn y 1960au ac ysgaru Roger Moore yn 1969, fe adfywiodd gyrfa Dorothy Squires, ac yn 1970 fe dalodd hi am y London Palladium i gynnal cyngherddau yno. Roedd Johnny Tudor yn perfformio ar y llwyfan gyda hi.
Anwadal
Enillais i'r Gibraltar Song Festival ac roedd Dot yn y gynulleidfa. Ac ar ôl hynny yn 1970 gofynnodd hi i fi wneud y sioe efo hi yn y Palladium.
Hwnna oedd cyngerdd cyntaf comeback Dorothy, ac yn dilyn hynny es i ar daith gyda hi i Lerpwl, Manceinion, Royal Albert Hall a dros y wlad i gyd, ces i lot o hwyl gyda hi, oedd hi'n ddoniol ac yn gymeriad.
Roedd hi dipyn bach yn fiery, ond yn neis iawn ac yn hael dros ben. Roedd hi'r math o berson os oeddet ti moyn aros yn ei thŷ hi, dim problem, ond roedd hi'n gallu newid, roedd hi'n anwadal.
Roedd ei phriodas hi a Roger Moore yn ffyrnig, ond dwi'n credu taw Roger oedd ei gwir gariad. Dipyn bach fel Richard Burton a Liz Taylor, doedden nhw yn methu byw gyda'i gilydd nac ar wahân.
Cafodd hi alwad ffôn oddi wrth Roger diwrnod cyn iddi farw. Ffoniodd e Ysbyty Llwynypia, lle roedd hi yn ei dyddiau olaf, a dweud wrth Emily, ei nith i ddweud wrthi, "hold her hand and say I'm thinking of her." Fe wenodd hi pan glywodd hi hynny, a wedyn buodd hi farw. Felly yn ei meddwl hi, dwi'n credu, roedd hi'n teimlo ei fod e wedi dod nôl ati.
Cymru yn ei chalon
Roedd Cymru yn bwysig iddi. Pan oedd hi'n byw yn Llundain, roedd y tŷ wastad yn llawn pobl o Gymru, ei theulu, Antis, Wncwls a ffrindiau. Roedd hi'n dal i siarad gyda acen Gymraeg a phan es i weld hi pan oedd hi yn yr ysbyty, fe siaradodd hi dipyn bach o Gymraeg.
D'on i ddim yn sylweddoli ei bod hi'n gallu siarad Cymraeg tan hynny, ond os wyt ti'n meddwl am ardal Llanelli pan gafodd hi ei geni, roedd pawb yn siarad Cymraeg yn yr ardal yn 1915.
Yn y llyfr yma dwi wedi sgwennu'r gwir. Stwff dwi'n gwybod fy hun amdani a dwi wedi siarad gyda'i nith hi. Mae 'na lot o urban myths o gwmpas Dorothy, fel ei bod hi'n yfwr mawr. Mae hynny'n anghywir.
Doedd hi ddim yn gallu yfed lot. Cafodd hi dabledi gan y doctor ar ôl ei ysgariad, a roedd hi'n hooked fi'n credu a dyna pam oedd pobl yn meddwl ei bod hi'n yfed gormod, ond doedd hi ddim. Un glasied o win ar ôl y bilsen a dyna'i gyd oedd angen arni."