£1.4m i blismona Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd £1.4m yn ychwanegol yn cael ei roi tuag at gostau plismona ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd.
Mae disgwyl i ddegau o filoedd o gefnogwyr deithio i brifddinas Cymru ar gyfer y gêm bêl-droed clwb fwyaf yn y byd, fydd yn cael ei chynnal ar 3 Mehefin.
Dywedodd Llywodraeth y DU bod diogelwch yn "hynod o bwysig" wrth roi'r grant i Heddlu De Cymru.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei bod hi'n hanfodol sicrhau bod Cymru a'r DU yn cael y sylw gorau posib wrth gynnal yr ornest.
"Rydw i wedi bod mewn trafodaethau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Swyddfa Gartref ers peth amser," meddai ar raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru.
"Fe wnaethon ni'r penderfyniad hwn cyn y problemau diweddar yn Llundain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2015