Cytundeb amddiffyn £330m i General Dynamics yn Oakdale

  • Cyhoeddwyd
CytundebFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae cwmni General Dynamics wedi cael cytundeb gwerth £330m gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, fydd yn creu 125 o swyddi yn ei safle yn Oakdale, Sir Caerffili.

Bydd y cwmni'n dylunio'r genhedlaeth nesaf o system gyfathrebu ar gyfer y lluoedd arfog.

Fe fydd y system yn disodli'r un bresennol sydd yn cael ei defnyddio, sef system Bowman, oedd hefyd wedi ei datblygu gan General Dynamics yn Oakdale.

Ynghyd â chreu 125 o swyddi newydd, fe fydd y cytundeb hefyd yn galluogi 125 o beirianwyr ychwanegol i symud o weithio ar Bowman i'r system newydd, fydd yn cael ei galw'n EvO (Evolve to Open).

Diwydiant

Bydd yn cael ei defnyddio ar gyfer fflyd newydd General Dynamics o gerbydau arfog AJAX y lluoedd arfog, sydd yn cael eu gosod a'u profi ym Merthyr.

Fe fydd y system newydd yn cydlynu cerbydau ar y ddaear gyda'r pencadlys a chyfleu gwybodaeth i beilotiaid yr Awyrlu.

Ffynhonnell y llun, General Dynamics
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerbydau AJAX yn cael eu gosod a'u profi ym Merthyr Tudful

Mae'r diwydiant amddiffyn yn cyflogi 5,000 o bobl yng Nghymru, gyda'r mwyafrif yn swyddi o safon a chyflogau uchel.

Cytundeb EvO yw'r rhan gyntaf yn rhaglen newydd MORPHEUS y Weinyddiaeth Amddiffyn ac mae'n adlewyrchu newid cyfeiriad gan y Weinyddiaeth, wrth roi cytundebau mawr i gwmnïau o Brydain.

Mae rhai cytundebau'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi eu beirniadu yn y gorffenol am yr oedi cyn eu cwblhau, ac am y gost.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ken Skates yn ymweld â safle General Dynamics ym Merthyr Tudful yr wythnos nesaf

Mae'r newidiadau hyn yn golygu y gall gwahanol gwmnïau wneud cynnig am waith ar wahanol rannau o raglen MORPHEUS, gan ddatblygu gwaith sydd wedi ei gwblhau'n barod gan fusnesau eraill.

Gallai hyn olygu fod y lluoedd arfog yn llai dibynnol yn y dyfodol ar un cwmni'n unig i gwblhau cynllun ar amser ac o fewn y pris disgwyliedig.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod y buddsoddiad yn "newyddion gwych".

"Mae General Dynamics yn gwmni angori gan Lywodraeth Cymru ac rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth am flynyddoedd lawer i gefnogi eu twf yn ne Cymru.

"Rydyn ni wedi buddsoddi swm sylweddol mewn prosiectau ymchwil a datblygu yn General Dynamics sydd wedi galluogi'r rhaglen Esblygu i Agor, i helpu i sicrhau'r contract gwerth £330m yma, gan greu 125 o swyddi newydd a diogelu 125 yn rhagor o swyddi yn Oakdale."