Taith newydd y Pasg
- Cyhoeddwyd
Llecynnau i'r enaid gael llonydd. Dyna un o'r elfennau sy'n cael eu cynnig gan brosiect llwybrau Meini a'r Llannau, dolen allanol yn y de-orllewin. Cafodd y prosiect ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl leol a thwristiaid yn Sir Benfro ymweld a rhai o hen lwybrau'r pererinion a rhai o addoldai'r ardal.
Bydd gwasanaeth arbennig ar 7 Ebrill yn Eglwys Nanhyfer i groesawu'r llwybr diweddaraf.
Anne Eastham, un o sylfaenwyr y prosiect sy'n sôn rhagor am y llwybrau wrth BBC Cymru Fyw.
Bron i chwarter canrif yn ôl roedd yna bryder y byddai llawer o'r adeiladau eglwysig yn y de-orllewin yn gorfod cau gan fod cynulleidfaoedd yn heneiddio a niferoedd yr addolwyr yn lleihau.
Felly, roeddem ni'n teimlo bod angen gwneud mwy i dynnu sylw pobl at y perlau pensaernïol ac ysbrydol a oedd yn bodoli lar hyd a lled hen sir Dyfed.
Mae pawb yn gyfarwydd â'r Eglwys Gadeiriol enwog yn Nhyddewi - sydd yn denu dros chwarter miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn - ond mae 'na eglwysi a chapeli eraill o bwys yn y rhan hon o Gymru.
Bellach - dros ugain mlynedd yn ddiweddarach - mae 'na chwech o lwybrau wedi eu sefydlu gan brosiect Meini a Llannau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion sy'n tywys ymwelwyr i rai o adeiladau eglwysig mwyaf nodedig yr ardaloedd amrywiol.
Y diweddaraf o'r rhain yw llwybr Cemais, sy'n cychwyn yn Manordeifi yn nyffryn Teifi. Caiff ymwelwyr eu tywys wedyn trwy Gilgerran a Llandudoch - a safle'r Abaty ysblennydd.
Mae'r llwybr wedyn yn mynd trwy Drewyddel, a'r Beifil sydd ag eglwys hynafol â chorau caedig hynod a phulpud.
Ond mae Eglwys St Brynach Nanhyfer yn nodedig hefyd gyda'i chroes Geltaidd anferth yn y fynwent, a'r ysgrifen Ogam yn yr eglwys. Wrth gwrs, Gwyddel oedd Brynach, felly dyw hi ddim syndod o gwbl bod ysgrifen Wyddelig hynafol i'w gweld yn yr eglwys. Mae'n dangos hefyd pa mor agos oedd y cysylltiadau rhwng y cenhedloedd o gwmpas y môr Celtaidd yn ystod oes y seintiau 1500 o flynyddoedd yn ôl.
Mae'r llwybr yn gorffen yng Nghwm yr Eglwys. Yno mae adfeilion yr ail Eglwys sydd wedi ei chyflwyno i Sant Brynach ar y daith hon. Yng Nghwm yr Eglwys cafodd rhannau o'r eglwys eu dinistrio mewn stormydd difrifol yn 1850 a 1851. Cafodd y to ei sgubo i ffwrdd ym 1859, yn y storm a ddrylliodd y Royal Charter ym Moelfre, a bu'n adfail byth oddi ar hynny.
Mae'n profiad ni dros yr ugain mlynedd diwethaf yn dangos bod pobl yn aml yn galw i mewn i'r eglwysi heb wybod yn iawn pam eu bod nhw'n gwneud hynny. Ond yn amlach 'na heb maen nhw'n dweud eu bod yn mynd â rhywbeth oddi yno gyda nhw - rhyw deimlad o lonyddwch - felly mae'r adeiladau yma yn parhau i weithredu fel mynegbyst yr Efengyl ac yn lle i'r enaid gael llonydd.