Buddsoddiad yn safleoedd Cadw 'yn cynyddu twristiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Castell Harlech
Disgrifiad o’r llun,

Mae £6m wedi ei fuddsoddi ar ddatblygu adnoddau yng nghastell Harlech

Mae Cadw yn annog pobl i ymweld â'i safleoedd hanesyddol, yn sgil buddsoddiad yn yr adnoddau yn rhai o'r cestyll sydd yng ngofal y corff.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae 1.4m o bobl wedi ymweld â 30 o'i safleoedd yng Nghymru, gan ddod â channoedd o filoedd o bunnau i'r economi leol.

Un o'r cestyll sydd wedi cael buddsoddiad gan Cadw yw Castell Harlech.

Mae £6m wedi ei wario ar ddatblygu'r adnoddau yno, gan gynnwys pont droed newydd ac uwchraddio'r ganolfan ymwelwyr a'r caffi.

Disgrifiad,

Mae Harlech wedi elwa o'r buddsoddiad, meddai Freya Benthan o gaffi'r castell

Yn ôl Cadw, mae hyn wedi arwain at gynnydd o 35% yn nifer y bobol sy'n ymweld â'r safle, i dros 100,000 o bobol yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Mis Mawrth.

Mae treftadaeth Cymru'n cyfrannu'n sylweddol at yr economi, medd y sefydliad, gan gynnal 30,000 o swyddi ac ychwanegu bron i £850m i economi'r wlad - tua 20% o'r gwariant ar dwristiaeth yng Nghymru.

Cadw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cadw hefyd wedi buddsoddi £450,000 yng Nghastell Cricieth