Pryder cefnogwyr am safle hyfforddi newydd CPD Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Collier's ParkFfynhonnell y llun, Google

Mae swyddogion o Glwb Pêl-droed Wrecsam wedi ymateb i feirniadaeth gan rai cefnogwyr am gynllun fyddai'n golygu fod chwaraewyr y clwb yn hyfforddi ar gaeau chwarae'r cyngor lleol y tymor nesaf.

Llynedd fe adawodd y clwb safle hyfforddi Colliers Park yn Gresffordd, gafodd ei agor ddegawd yn ôl ar gost o £750,000, a'i ddisgrifio fel un o'r "cyfleusterau hyfforddi gorau tu allan i'r Uwch Gynghrair".

Mae'r safle wedi cael ei reoli gan Brifysgol Glyndŵr ers 2011, ond ym mis Mehefin y llynedd fe fethodd y clwb â dod i gytundeb gyda'r brifysgol am gael parhau i'w ddefnyddio.

Yn ystod y tymor presennol, mae chwaraewyr wedi bod yn hyfforddi ar gae Parc Stansty sy'n gartref i glwb Lex Glyndŵr - clwb sy'n chwarae yng Nghynghrair Genedlaethol y Gogledd Ddwyrain - filltir o stadiwm Wrecsam ar y Cae Ras.

Prydles

Mae'r clwb nawr yn paratoi i arwyddo prydles i ddefnyddio caeau chwarae Nine Acres Cyngor Sir Wrecsam, ac mae'r penderfyniad wedi hollti barn y cefnogwyr, gyda rhai'n lleisio eu hanfodlonrwydd ar wefan cefnogwyr y clwb, Red Passion.

Dywedodd un cefnogwr: "Colli Colliers yw'r rhan fwyaf trist o'r holl saga yma. Dwi'n cofio'r dyddiau pan roedd Barcelona'n hyfforddi yno ac roedd yn cael ei ddisgrifio fel un o'r cyfleusterau hyfforddi gorau tu allan i'r Uwch Gynghrair."

Ond mae cefnogwyr eraill o'r farn fod symud i hyfforddi ar gae newydd yn beth da, gan y byddai'n gyfle i ddatblygu cyfleusterau hyfforddi newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd gemau Wrecsam yn parhau i gael eu chwarae ar y Cae Ras

Dywedodd Bryn Law, gohebydd chwaraeon gyda Sky Sports a ymddiswyddodd yn gynharach eleni o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, ei fod yn drist i weld perthynas y clwb gyda Colliers Park yn dod i ben.

"Mae'n gyfleuster gwerth chweil - gyda nifer o glybiau mawr yn genfigennus ohono," meddai.

Mewn neges ar Twitter, ychwanegodd: "O fod yn berchen ar hwn i orfod gofyn caniatâd i ddefnyddio cae yn Wrecsam? Dwi'n flin ar y funud. Dwi'n meddwl ein bod wedi cyrraedd sefyllfa o ddefnyddio siwmperi fel pyst ar y funud yn anffodus."

Arian

Dywedodd cyfarwyddwr y clwb Spencer Harris ei fod yn gobeithio y bydd y clwb yn gallu arwyddo prydles am safle hyfforddi'r cyngor am ychydig iawn o arian.

"Rydan ni'n sylweddoli fod safle Colliers Park yn agos at galonnau llawer o bobl, ond 'dyn ni ddim wedi bod yn berchen ar y safle ers nifer o flynyddoedd.

"Rhaid i ni wneud y gorau o'r sefyllfa rŵan a symud ymlaen. Rydym yn falch fod Nine Acres yn safle da ac fe fyddwn yn datblygu'r caeau yno i safon uchel fydd yn addas ar gyfer clwb pêl-droed proffesiynol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Wrecsam wedi bod yn chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol ers disgyn o Adran Dau yn 2008

Ymateb y cyngor

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Wrecsam: "Bydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn defnyddio Nine Acres ar gyfer hyfforddi ei dîm cyntaf a'i chwaraewyr proffesiynol ifanc yn nhymor 2017/18, ond nid ar gyfer canolfan i'r chwaraewyr ifanc yng nghynllun Canolfannau Rhagoriaeth y clwb.

"Y drefn gyffredin o ran defnydd fydd rhyw ddwy awr y diwrnod, bedwar dydd yr wythnos. Bydd y chwaraewyr yn parhau i newid yn y Cae Ras ac yna'n gyrru i'r safle, gan barcio o fewn Nine Acres ei hun ac felly ni fydd hyn yn ychwanegu at y parcio ar y ffordd sy'n digwydd yn yr ardal.

"Bydd gwelliannau i wyneb y cae'n cael eu gwneud yn yr wythnosau nesaf gan y clwb a'u gofalwr arbenigol.

Dywedodd Alan Watkin, cadeirydd y clwb: "Rydym wrth ein bodd ein bod, fel clwb sydd yn nwylo'r gymuned, yn mynd i leoli ein hyfforddi yng nghanol Wrecsam a hoffwn ddiolch i Gyngor Wrecsam am gytuno i ni wneud hyn.

"Hoffwn bwysleisio na fydd safle Nine Acres yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwarae unrhyw gemau."