Ffoaduriaid o Syria yn cynnal digwyddiad i ddiolch

  • Cyhoeddwyd
ffoaduriaid yn SyriaFfynhonnell y llun, AFP/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorau Cymru wedi derbyn 400 o ffoaduriaid o Syria bellach, yn ôl y Swyddfa Gartref

Mae chwe theulu o ffoaduriaid o Syria sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru yn cynnal digwyddiad ddydd Iau i ddiolch i'w cymuned leol.

Naw mis yn ôl fe symudodd y teuluoedd i Ystradgynlais fel rhan o gynllun i ganfod cartrefi i ffoaduriaid oedd yn dianc o'r ymladd yn y Dwyrain Canol.

Maen nhw nawr wedi trefnu digwyddiad mewn neuadd yn y dref fydd yn codi ymwybyddiaeth o'u diwylliant, eu crefydd a'u bwyd.

'Chwalu rhwystrau rhagfarnau'

"Mae'n bleser i ni groesawu aelodau o gymuned Ystradgynlais i'r digwyddiad sydd wedi cael ei sefydlu er mwyn rhoi cyfle i'r ffoaduriaid o Syria gyflwyno'u hunain i'w cymuned newydd," esboniodd Amel Foudil Cherif, gweithiwr cymorth teuluol gyda'r cynllun integreiddio.

"Bwriad y digwyddiad yw chwalu rhwystrau rhagfarnau, a magu dealltwriaeth. Bydd y teuluoedd yn cyflwyno eu gwlad, diwylliant, bwyd a chrefydd i'r rheiny fydd yno."

Dywedodd Simon Inkson, pennaeth tai ar Gyngor Sir Powys a phrif swyddog y cynllun i ganfod cartrefi i'r Syriaid, fod pethau wedi bod yn llwyddiannus hyd yn hyn.

"Mae'r gymuned wedi gwneud eu gorau i helpu eu haelodau mwyaf newydd i setlo," meddai.

"Mae gan y teuluoedd, oedd i gyd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi yn Syria i wledydd eraill cyn cyrraedd Powys, nawr le saff a diogel er mwyn ailadeiladu eu bywydau," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r digwyddiad wedi cael ei drefnu gan y teuluoedd er mwyn diolch i bawb yn Ystradgynlais sydd wedi eu helpu nhw i setlo yn eu cartrefi newydd."