£13m i ganolfan ymchwil dementia ym Mhrifysgol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Prifysgol Caerdydd yn derbyn £13m er mwyn datblygu canolfan ymchwil dementia newydd.
Gyda'r posibilrwydd o gael £17m yn rhagor dros y pum mlynedd nesaf, mae'n debygol mai'r ganolfan hon fydd y buddsoddiad mwyaf erioed mewn astudiaethau gwyddonol ym maes dementia yng Nghymru.
Y bwriad yw trin ac atal dementia, a gofalu am bobl sydd â'r cyflwr.
Mae'n rhan o fenter gwerth £250m sydd wedi'i ariannu gan y Gymdeithas Ymchwil Feddygol, Cymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer.
Datblygiad 'cyffrous'
Bydd hyd at 60 o ymchwilwyr gwyddonol yn cael eu cyflogi yn y ganolfan, a'u nod fydd deall y clefyd a datblygu therapïau newydd.
Fe fydd yn un o chwe chanolfan drwy Brydain a bydd yn cael ei leoli yn adeilad Hadyn Ellis o fewn y brifysgol.
Yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru ac Athro Geneteg Niwroseicolegol ym Mhrifysgol Caerdydd, fydd yn arwain y ganolfan newydd.
"Mae hyn yn ddatblygiad nodedig," meddai wrth siarad â BBC Cymru.
"Digwyddodd hyn ym maes ymchwil canser 20 mlynedd yn ôl, pan roedd yna fuddsoddiad sylweddol ei gynnal, a nawr ry'n ni'n elwa o ran therapïau newydd ar gyfer canser.
"Gallwn ni 'neud yr un peth gyda dementia ac roedd angen yr hwb ariannol yma arnom ni felly ry'n ni'n hynod o falch.
"Mae gennym ni hanes hir o lwyddiant o ran darganfod beth sy'n achosi Alzheimer's.
"Ry'n ni wedi darganfod 30 o enynnau dros y saith mlynedd diwethaf sy'n cynyddu eich risg o ddatblygu'r afiechyd.
"Beth sy'n gyffrous am y ganolfan yma yw y bydd yn ein galluogi i ddatblygu'r wybodaeth yma, i ddarganfod mecanweithiau'r afiechyd a chreu triniaethau a therapïau i'w atal."
Mae gan fam Garry Roberts ddementia ac mae hi wedi bod mewn cartref ers sawl blwyddyn bellach.
Bu'n rhannu ei brofiad gyda BBC Cymru, gan ddisgrifio effaith yr afiechyd ar ei fam.
Bydd y ganolfan yn adeiladu ar lwyddiant Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatreg a Genomeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Fe fydd yn defnyddio'r dros 30 o enynnau sydd wedi'u canfod gan wyddonwyr yng Nghymru sy'n cyfrannu at naill ai glefydau Alzheimer neu Huntington.
Cyfraddau gwaethaf drwy Brydain
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Yng Nghymru y ceir y cyfraddau gwaethaf drwy Brydain ar gyfer canfod dementia. Mae hyn yn effeithio ar y gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'r unigolion a'u teuluoedd.
"O ystyried y cyd-destun cenedlaethol hwn, a baich dementia ar draws y byd, mae Prifysgol Caerdydd wedi gwneud ymchwil ynghylch dementia yn flaenoriaeth strategol ac yn gonglfaen o'n Strategaeth Arloesedd Clinigol gyda'r Gwasanaeth Iechyd.
"Drwy lansio'r ganolfan newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, byddwn yn adeiladu ar y sylfaen gadarn hon i ganfod ffyrdd newydd o fynd i'r afael â dementia."
Ychwanegodd yr Athro Bart De Strooper, cyfarwyddwr y cynllun UK DRI: "Y weledigaeth o fewn y canolfannau fydd wrth wraidd llwyddiant DRI, a'r creadigrwydd hwn fydd yn ein helpu i ddeall dementia a sut mae gwahanol fathau o'r clefyd yn datblygu.
"Dewiswyd y canolfannau ar sail gwyddoniaeth arloesol a rhagorol, tystiolaeth o arweiniad cadarn a'u gallu i dyfu a chydweithio wrth i waith y sefydliad fynd o nerth i nerth."
'Rhoi gobaith'
Mae'r Athro Valentina Escott-Price yn dadansoddi data ym Mhrifysgol Caerdydd gan ganolbwyntio ar ymchwil dementia.
Mae ei gwaith wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol, ac mae hi wedi chwarae rhan allweddol wrth ddenu'r ganolfan i Gaerdydd.
"Bydd yn rhoi cyfle i ddod ac ymchwilwyr eraill o wahanol ddisgyblaethau at ei gilydd gan gydweithio gyda chlinigwyr, biolegwyr, genetegwyr," meddai wrth drafod y buddsoddiad.
"Rwy'n credu byddwn yn rhoi gobaith i'r rhai sydd â dementia. Gyda'n gwaith ymchwil bydd modd creu cyffuriau ond i wella neu i ddatrys y broblem, mae ffordd bell i fynd. Yn sicr mi fyddwn yn ceisio arafu'r dirywiad.
"Byddwn hefyd yn ceisio deall beth sy'n achosi'r clefyd ac edrych ar ymyrraeth gynharach. Dwi'n credu y byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl â dementia a theuluoedd sy'n gofalu amdanyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2017