Newidiadau i drafnidiaeth ysgol yn 'llanast llwyr' medd rhieni

O'r mis yma ymlaen rhaid i ddisgyblion ysgolion uwchradd a myfyrwyr colegau fod yn byw tair milltir neu bellach o'u hysgol er mwyn cael cludiant am ddim
- Cyhoeddwyd
Mae rhai rhieni wedi disgrifio newidiadau i drafnidiaeth ysgol yn eu hardal fel "llanast llwyr" ac yn dweud ei fod yn effeithio ar y gymuned gyfan.
O'r mis yma ymlaen rhaid i ddisgyblion ysgolion uwchradd a myfyrwyr colegau fod yn byw tair milltir neu bellach o'u hysgol er mwyn bod yn gymwys i gael cludiant yno am ddim.
Mae hyn yn newid o'r trothwy blaenorol, oedd yn ddwy filltir neu fwy.
Mae ymgyrch yn Sir Rhondda Cynon Taf yn galw am edrych eto ar y newidiadau i reolau cludiant bysiau ysgol, ar ôl mynegi pryderon am ddiogelwch disgyblion.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod yn "adolygu effeithiau" y system newydd ac y bydd "camau ymarferol angenrheidiol" yn cael eu cymryd lle bo angen.

Mae ymgyrchwyr yn galw am edrych eto ar y newidiadau i reolau cludiant bysiau ysgol
Mae Tina Collins wedi helpu i lunio deiseb yn erbyn y newidiadau - ar hyn o bryd mae dros 10,000 wedi ei llofnodi.
Dywedodd bod yr effaith ar blant wedi bod yn "enfawr", er gwaethaf y ffaith mai wythnos gyntaf y tymor ydy hi.
"Mae rhai'n gorfod dod o hyd i ffordd eu hunain i'r ysgol. Mae bysiau cyhoeddus yn llawn a ddim yn stopio ar rai arosfannau.
"Mae e'n effeithio ar bawb - plant, gweithwyr, yr henoed. Mae ciwiau ym mhob man," meddai Ms Collins.

Mae bysiau gorlawn a thraffig trwm wedi cael eu gweld wrth i'r flwyddyn ysgol newydd gychwyn
Dywedodd Ms Collins ei bod wedi clywed am blant yn poeni'n ofnadwy o ganlyniad i'r amgylchiadau.
"Rydym yn poeni y bydd plentyn yn brifo.
"Mae un athrawes wedi sôn wrthym ei bod yn poeni am gael ei gwasgu wrth geisio mynd ar fysiau llawn dop," meddai.
Mae wyrion Elaine Buss yn mynychu Bryn Celynnog ym mhentref Beddau a dywedodd fod disgwyl i blant gerdded milltiroedd i'r ysgol neu ddal bws cyhoeddus.
Disgrifiodd y bysiau fel "llanast llwyr", gan ychwanegu eu bod wedi'u "gorlenwi" â phlant yn gwthio am le.
Dywedodd hefyd bod Edwards Coaches wedi darparu bysiau ychwanegol - ond nad yw'n ddigon.
'Canlyniad uniongyrchol o doriadau'r cyngor'
Dywedodd Karl Johnson, Cynghorydd Ceidwadol Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf, fod y sefyllfa yn cael "effaith niweidiol" ar y plant.
"Nid yw hyn yn eu paratoi am ddechrau da ac mae'r cyfan yn ganlyniad uniongyrchol toriadau y cyngor," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod "pob dysgwr uwchradd ac ôl-16 yn gymwys i gael cludiant am ddim yn unol â Mesur Teithio Dysgwyr Llywodraeth Cymru".
Ychwanegodd y llefarydd fod y mesur "ar waith ar draws 18 allan o 22 ardal cyngor Cymru".
"Mae hyn yn golygu bod dysgwyr sy'n byw tair milltir neu fwy i ffwrdd o'u man dysgu yn dal i dderbyn cludiant am ddim.
"Mae ein polisi cludiant diwygiedig o'r cartref i'r ysgol yn parhau i gludo miloedd yn fwy o blant bob wythnos na'r disgwyl, y tu hwnt i ofynion cludiant ysgol statudol."
Fore Gwener dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili na fydd y newidiadau i drafnidiaeth ysgol yn digwydd yn y sir.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu cludiant i ddysgwyr ac nad oes "unrhyw gynlluniau presennol" i adolygu'r trothwy milltiroedd.
"Mae gan awdurdodau lleol yr hawl i ddarparu cludiant i ddysgwyr sy'n mynd y tu hwnt i'w cyfrifoldebau statudol os ydynt yn dymuno."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.