Y Gymraes sydd eisiau achub ieithoedd brodorol Ynysoedd y Sianel

- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi am yr ieithoedd lleiafrifol sy'n cael eu siarad ar Ynysoedd y Sianel?
Erbyn hyn, dim ond tua 500 o bobl sy'n siarad iaith frodorol Jersey, Jèrriais - tua 0.5% o'r boblogaeth.
Ond mae un Gymraes ar flaen y gad ac yn cynnig cyngor ynglŷn â sut i geisio diogelu'r iaith honno a rhai o ieithoedd ynysoedd eraill y Sianel sydd mewn peryg o ddiflannu am byth.
Seyiz les beinv'nus à Jèrri (Croeso i Jersey)
Os ewch chi i Jersey, fe welwch chi arwyddion dwyieithog o amgylch y lle; arwyddion Saesneg, sef prif iaith yr ynys, ac iaith sy'n edrych yn debyg i Ffrangeg.
Ond er fod ynys Jersey yn agosach at arfordir Ffrainc nag un Lloegr, nid math o Ffrangeg yw Jèrriais, ond iaith Normanaidd, sy'n debyg i iaith frodorol ardal Normandi yn Ffrainc.
Mae ieithoedd tebyg hefyd ar rai o ynysoedd eraill y Sianel, fel Guernésiais ar ynys Guernsey a Sercquiais ar ynys Sark.
Mae'r Athro Mari C. Jones, sy'n Athro Ieithyddiaeth Ffrangeg a Newid Ieithyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn Gymrawd yn Peterhouse, wedi bod yn astudio'r ieithoedd Normanaidd yma ers dros chwarter canrif. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ac erthyglau am y pwnc ac erbyn hyn yn cynghori llywodraethau'r ynysoedd am sut i geisio diogelu eu hieithoedd, gan eu bod bellach mewn sefyllfa fregus iawn.
"Ar ôl gwneud doethuriaeth am effaith cyswllt Saesneg ar y Gymraeg, o'n i eisiau parhau i edrych ar sut oedd ieithoedd mwy ac ieithoedd llai yn effeithio ar ei gilydd," eglurodd.
"Digwydd siarad gyda rhywun oedd wedi crybwyll Jersey, mynd i'r llyfrgell a gweld os oedd rhywbeth wedi ei sgrifennu am Jersey a Jèrriais, a doedd yna fawr o ddim byd.
"Es i draw i Jersey am fis a dysgu'r iaith a 'nes i ddechrau drwy sgrifennu llyfr ar y dylanwadau ieithyddol roedd bod mewn cyswllt â'r Saesneg wedi cael ar Jèrriais.
"O'dd pobl yn Guernsey â diddordeb yn beth o'n i'n ei wneud felly mynd yna a dechrau gweithio yn fan'na, wedyn i ynys Sark ac oddi yno i dir mawr Normandi..."

Mae Mari yn aml yn rhoi sgyrsiau am ei gwaith ymchwil am yr ieithoedd
Dechreuodd ei hymweliad cyntaf â Jersey nôl yn 1998 ar berthynas hir-dymor â ieithoedd a chymunedau Ynysoedd y Sianel; cymunedau sydd wedi ei chroesawu yn gynnes.
"Y cwestiwn cyntaf gan bawb ydi 'gan eich bod yn dysgu Ffrangeg pam eich bod chi'n dod fan hyn yn lle mynd i Ffrainc?'
"Ond dwi'n Gymraes ac yn siarad Cymraeg, sydd hefyd yn iaith sy'n bodoli ochr-yn-ochr â'r Saesneg, felly mae'n rhoi rheswm pam mod i'n ymddiddori yn eu hiaith, ac maen nhw'n derbyn hynny'n syth.
"A'r ffaith fod y Gymraeg yn cael ei chydnabod fel llwyddiant, wedi troi'r gornel a sy'n llwyddo i fyw... Er mod i ddim yn esgus gwybod llawer am bolisïau ieithyddol y Gymraeg, maen nhw'n fodlon derbyn y cyngor pan dwi'n dweud 'rhaid i chi siarad eich iaith'."
Meddylfryd negyddol wedi ei wreiddio
Tua 500 o siaradwyr Jèrriais iaith-gyntaf sy'n bodoli bellach a thua 300 o siaradwyr Guernésiais (eto, tua 0.5% o'r boblogaeth).
Bu farw iaith ynys Alderney (Aurignais) tua cyfnod yr Ail Ryfel Byd, a dim ond dwy chwaer yn eu 80au sydd yn siarad Sercquiais fel mamiaith erbyn hyn.
Beth sydd tu ôl i sefyllfa fregus yr ieithoedd?
"Daeth Saesneg yn fwyfwy amlwg ar yr yn ynysoedd yn ystod ail hanner 19eg ganrif wrth i fasnach gyda Lloegr gynyddu a gyda thwf twristiaeth. Hefyd, yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd lot fawr o fenywod a phlant wedi gorfod gadael Jersey a Guernsey, a mynd fel ifaciwîs i Loegr cyn i'r Almaenwyr feddiannu'r ynysoedd. Dyma'r ynyswyr yn dod nôl ar ddiwedd y Rhyfel ond ar ôl pum mlynedd o fod bant, roedden nhw wedi colli lot o'u hiaith.
"Roedd Jersey a Guernsey yn llefydd gwahanol iawn i gymharu â sut oedden nhw cyn y Rhyfel ac roedd pobl yn gweld mwy o werth o siarad Saesneg, a dim lot o werth mewn siarad yr ieithoedd Normanaidd, achos o'n nhw'n eu cadw nhw ar yr ynys, tra bod siarad Saesneg yn agor lan y byd tu fas, yn eu tyb nhw, o leiaf.
"Fel gyda ni yng Nghymru â'r Welsh Not, roedd rhywbeth tebyg yn yr ynysoedd; doedd plant ddim yn cael siarad yr ieithoedd Normanaidd yn yr ysgol, ac yn gorfod siarad Saesneg.
"Roedd agwedd negyddol tuag at yr ieithoedd, ac wedyn erbyn i'r ynyswyr sylweddoli 'mae'r iaith mynd i farw', doedd dim lot o siaradwyr ar ôl."

Iaith Guernésiais ar faniau Guernsey Post
Ddiwedd yr 1990au, pan ddechreuodd pobl boeni mwy am geisio diogelu'r ieithoedd, roedd angen newid meddylfryd negyddol oedd wedi ei wreiddio yn ddwfn, eglurai.
"O'dd angen eu darbwyllo pam y dylen nhw eu siarad; roedd pobl wedi cael eu cosbi am wneud, felly dyna nhw'n meddwl 'beth yw'r pwynt?'.
"O gael rhywun o'r tu allan, rhywun academaidd, yn gweld gwerth yn yr iaith, o'dd e'n codi statws yr iaith yn eu meddwl nhw. I wleidyddion, roedd y ffaith fod rhywun o'r tu fas yn dod mewn a dweud 'mae gyda chi iaith sydd wedi cael ei siarad yma am ganrifoedd, ac sy'n rhan bwysig o hunaniaeth a diwylliant eich ynys, ydych chi wir moyn i'ch iaith gael ei cholli ar ôl bod yma am gymaint o amser, a hynny o dan eich rheolaeth chi?' hefyd wedi cael effaith.
"Dwi'n credu o'dd e'n help cael sbardun o'r tu fas."
Cyn ei bod hi'n rhy hwyr...
Mae strategaethau i adfywio'u hieithoedd nawr mewn lle gan lywodraethau Jersey a Guernsey, gyda Mari yn cadeirio pwyllgor ymgynghorol comisiwn newydd i hyrwyddo'r iaith Guernésiais.
Mae llawer o waith yn cael ei wneud ar Jersey yn arbenning, gyda phump athro bellach yn teithio o amgylch ysgolion cynradd Jersey yn cynnal dosbarthiadau Jèrriais a swyddogion hyrwyddo'r iaith yn gweithio'n frwd.
Ond diffyg cyfleoedd cymdeithasol i ddefnyddio'r iaith yw un o'r prif rwystrau, meddai Mari, hyd yn oed os yw'r gefnogaeth a'r awydd yn bodoli i geisio eu hachub.
"Mae'r plant yn dysgu'r ieithoedd yn yr ysgol yn Jersey, ond dy'n nhw ffili mynd mas i'r gymuned i ymarfer, achos does dim lot o siaradwyr ar gael. Yng Nghymru, mae gyda ni'r Urdd, mae'r plant yn gallu ymuno ag Aelwyd a chlybiau.
"Does dim byd fel'na yn Jersey, er nawr maen nhw 'di dechrau cynnal caffis pob dydd, mewn rhannau gwahanol o'r ynys, er mwyn cael rhyw fath o gylch trafod i unrhyw un sy' moyn dod – yn siaradwyr brodorol, a hefyd y dysgwyr – mae hon yn gam positif."
A'r rhwystr pennaf un yw diffyg amser. Gyda siaradwyr rhugl yr ieithoedd Normanaidd yn marw pob blwyddyn, mae amser yn dechrau rhedeg allan.
Ond mae gwaith a brwdfrydedd Mari yn sicr wedi helpu tuag at arafu pethau.

Mae Mari wedi cyhoeddi llyfrau academaidd a rhai mwy poblogaidd am yr ieithoedd
Yn ogystal â chynghori'r llywodraeth ar strategaethau ieithyddol, mae Mari yn cynnal sgyrsiau ac yn ysgrifennu llyfrau academaidd, a rhai mwy poblogaidd, am yr ieithoedd.
Ynghyd ag addysgu pobl leol ac ymwelwyr â'r ynysoedd am yr ieithoedd, mae hi hefyd wedi chwarae rhan yn eu diogelu:
"Cyhoeddes i eirfa yn 2022 yn seiliedig ar gasgliad o sgraps o bapur oedd wedi eu casglu mewn bocs yn un o lyfrgelloedd Guernsey. Roedd yn amlwg i fi bod rhywun wedi bod yn trio gwneud geiriadur o ryw fath.
"Roedd yn amlwg i fi hefyd nad oedd y casgliad yn gyflawn; des i o hyd i lawer o'r darnau coll o bapur yn Aberystwyth o bob man!
"Ond ymhlith y papurau roedd 65 o ddiarhebion a dywediadau yn iaith Sark, felly 'nes i eu cyhoeddi mewn llyfr poblogaidd gyda lot o luniau o'r ynys.
"Dim ond dwy siaradwraig sydd ar ôl o'r iaith honno erbyn hyn, ac roedden nhw'n credu bod diarhebion yr iaith wedi cael eu colli yn gyfan gwbl. Mae fy llyfr bach nawr yn cael ei werthu yn swyddfa dwristaidd Sark, ac wedi gorfod cael ei ail-brintio achos fod gymaint o ddiddordeb!"
'Gwneud popeth dwi'n gallu'
Mae'r ynysoedd a'u hieithoedd yn agos at galon Mari; mae hi'n mynd i Jersey rhyw ddwywaith y flwyddyn, ac ym mis Ebrill cafodd ei gwahodd i feirniadu cystadlaethau Guernésiais yn yr 'Eisteddfod' flynyddol ar Guernsey... (er mai 'eistedfod' yw sut maen nhw'n ei ynganu, meddai).
"Roedd e mor od bod yn Guernsey eleni. Ro'n i'n llenwi'r ffurflenni beirniadaeth ac roedd y gair 'Eisteddfod' ar y top! Dydyn nhw ddim yn sylweddoli fod y gair yn dod o'r Gymraeg; iddyn nhw, dyna jest enw gŵyl ddiwylliannol eu hynys!
"Roedd hynny'n hyfryd, fi fel rhywun o wlad arall yn cael fy ngwahodd i ddod i mewn a beirniadu cystadlaethau yn eu hiaith nhw.

Cystadleuwyr yn eu dillad traddodiadol yn Eisteddfod Guernsey, yn barod i blesio Mari y beirniad
"Dwi'n gwneud popeth dwi'n gallu i drio annog pobl i gadw eu hiaith yn fyw ac i siarad eu hiaith. Dwi'n siŵr fod fy angerdd i am y Gymraeg wedi bwydo fy angerdd am ieithoedd Ynysoedd y Sianel, ac mae Jèrriais a Guernésiais yn cymryd mwy a mwy o nghalon fel mae'r amser yn mynd ymlaen achos dwi wedi bod yn gweithio arnyn nhw cyhyd.
"Dwi'n 'nabod y gymuned a dwi'n gweld beth sydd angen ei wneud, ac unrhyw help maen nhw'n gofyn gen i, fe wna'i ei roi iddyn nhw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Mai 2018
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023