Peli, bysiau a thuniau bîns: Cynlluniau Cymru oddi cartref

BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Ddydd Iau bydd tîm pêl-droed dynion Cymru yn wynebu Kazakhstan yn y rowndiau rhagbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2026.

Mae cyrraedd Kazakhstan yn her ynddi hun, 3,000 o filltiroedd a dros chwe rhanbarth amser sy'n cymryd dros wyth awr mewn awyren.

Mae'r trefniadau ar gyfer gêm o'r fath yn fwy heriol na'r arfer ac yn cymryd misoedd o gynllunio.

Dyma syniad i chi am beth mae tîm adran ryngwladol Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gorfod ei gyflawni er mwyn trefnu gêm bell oddi-cartref.

Teithio a gwesty

AstanaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae yn Astana

Mae Cymru'n gwybod y bydden nhw'n herio Kazakhstan ers dros naw mis.

Unwaith daeth yr enwau allan o'r het, roedd angen trefnu gwesty.

Mae'r ffaith fod gan Gymru cymaint o ddilyniant oddi cartref gyda miloedd o gefnogwyr yn eu dilyn dramor yn golygu fod angen trefnu gwesty ar frys rhag i'r ystafelloedd gael eu bwcio gan y Wal Goch.

Er nad yw lleoliad y gemau yn cael eu cyhoeddi nes 60 diwrnod cyn y gêm, mae dod o hyd i westy addas, gydag ystafelloedd moethus a digon o le i gynnal cyfarfodydd a gofod i'r tîm meddygol yn flaenoriaeth.

Wedyn daw'r gwaith o drefnu awyren breifat a seddi moethus a'r gost o hedfan mor bell. Mae'r Gymdeithas eisoes wedi dweud y bydd y chwaraewyr yn hedfan yn y dosbarth busnes i'w gemau oddi cartref ar gyfer yr ymgyrch gyfan.

Mae'r amser y byddai'r awyren yn gadael Caerdydd yn cael ei drafod gyda'r staff meddygol, er mwyn sicrhau nad yw'r chwaraewyr yn blino, gyda Bellamy yn awyddus i'r chwaraewyr gael digon o amser i orffwys a bwyta digon cyn cyrraedd.

Fel arfer ar ddiwedd gêm oddi cartref, byddai'r tîm yn hedfan yn syth yn ôl i Gaerdydd, ond mae Bellamy wedi dewis peidio y tro hwn, gan ddewis aros noson ychwanegol yn Astana, hynny i gyd i wneud â'r pellter.

Ymweld ag Astana

Maes AwyrFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Cymru yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd

Wrth ddewis gwesty, dyw staff y Gymdeithas ddim yn chwilio ar wefannau barn ar-lein pa un yw'r un mwyaf moethus. Gyda 10 wythnos nes y gêm byddai aelodau o staff yn hedfan allan i Astana i ddechrau cynllunio.

Bwriad y trip yw sicrhau nad oes unrhyw beth anghyfarwydd yn digwydd ar ôl i'r tîm lanio. Mae pob twll a chornel o'r stadiwm yn cael ei archwilio yn ogystal â'r gwesty, gan gyfri pob sedd fydd ar gael i Gymru drwy docyn.

Mae cyfarfodydd diogelwch yn digwydd hefyd gan ystyried y math o dywydd allai fod yn wynebu'r tîm, llif y traffig, yr amser bydd y bws yn ei gymryd i deithio rhwng y gwesty a'r stadiwm, hyd yn oed ble fydd y tîm yn mynd am dro yn ystod bore'r gêm.

Mae cogydd tîm Cymru wedi anfon ei fwydlen i'r gwesty yn barod, gan sicrhau ei fod yn pacio digon o ffa pob, gan fod ffa pob gwlad yn blasu'n wahanol i'r hyn mae'r chwaraewyr yn hoffi eu bwyta.

Mae pob manylyn yn cael ei gynllunio a'i adrodd yn ôl i Craig Bellamy a'i staff.

Bythefnos yn ddiweddarach, mae'r tîm sy'n gyfrifol am y cit wedi pacio'n barod gan gyfri'r holl beli a phlygu pob crys, hyn i gyd ar ôl i Bellamy roi gwybod pwy sydd wedi'u dewis i'r garfan.

Wythnos y gêm

Bellamy Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Bellamy yn gadael am Astana gyda gweddill y garfan

Mae'r chwaraewyr yn cyrraedd fesul un i westy'r Vale ger Caerdydd ble mae pencadlys a meysydd ymarfer Cymru.

Mae pob chwaraewr yn cael ei ystafell ei hun; does dim rhannu erbyn hyn fel roedd Aaron Ramsey a Chris Gunter yn ei wneud flynyddoedd yn ôl.

Wrth i'r tîm ymarfer mae carfan fawr o staff y Gymdeithas eisoes wedi gadael am Astana er mwyn addurno'r gwesty yn lliwiau Cymru a chael popeth yn barod cyn i Bellamy a'r chwaraewyr gyrraedd.

Ar ddiwrnod gadael Caerdydd, mae'r awyren yn cael ei phacio gyda 60 darn o gês teithio.

Mae peiriant coffi, sgriniau teledu mawr ar gyfer yr ystafell newid, gwlâu'r ffisiotherapyddion a'r stereo fydd yn chwarae'r gerddoriaeth cyn y gêm i gyd yn cael eu pacio.

Ar ôl y daith hirfaith bydd y chwaraewyr yn neidio ar fws ac yn mynd yn syth i'r gwesty er mwyn cael ymlacio.

Bydd bws arall yn nôl yr aelodau staff er mwyn eu cludo nhw a'r offer i'r gwesty.

Bydd y tîm meddygol yn asesu'r chwaraewyr i gyd gyn 23:00 y noson cyn y gêm, cyn i'r 23 enw gael eu hanfon at UEFA i gadarnhau pa chwaraewyr fydd yn ymddangos yn y garfan ar gyfer y gêm.

A dyna ni, gyda naw mis o drefnu, mae'r cyfan yn dod lawr i'r 90 munud ar y cae, nes bydd yr holl gynllunio yn dechrau eto ar gyfer y daith nesaf oddi cartref i Loegr ym mis Hydref a Liechtenstein ym mis Tachwedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.