Reform ddim yn diystyru cael gwared â'r Senedd - AS

Roedd Laura Anne Jones yn annerch cynhadledd Reform UK yn Birmingham ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidydd cyntaf Reform UK yn Senedd Cymru wedi dweud nad yw ei phlaid yn diystyru cael gwared â'r sefydliad.
Mae arweinydd y blaid, Nigel Farage, wedi mynegi cefnogaeth yn y gorffennol dros fodolaeth sefydliadau datganoledig fel y Senedd a Llywodraeth Cymru.
Ond yn siarad yng nghynhadledd y blaid yn Birmingham ddydd Gwener fe gwestiynodd Laura Anne Jones a ddylai Senedd Cymru barhau os na allai Reform "ei gwneud i weithio".
Mae arolygon barn wedi awgrymu bod y blaid yn cystadlu i ddod yn gyntaf yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.

Roedd Ms Jones yn Sioe Frenhinol Cymru gyda Nigel Farage i gyhoeddi ei bod yn gadael y blaid Geidwadol i ymuno â Reform
Fe gyhoeddodd Ms Jones yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ei bod yn gadael y blaid Geidwadol i ymuno â Reform.
Yn ei haraith yng nghynhadledd DU y blaid ddydd Gwener, fe awgrymodd y dylai'r llywodraeth gael gwared â'r terfyn cyflymder 20mya yng Nghymru, gwnaeth addewid i adeiladu ffordd liniaru'r M4 a darparu mwy o feddygfeydd teulu.
Dywedodd hefyd y byddai Reform yn cau gwestai sy'n rhoi llety i geiswyr lloches.
Mae dadleuon wedi bod ers blynyddoedd ar adain dde y sbectrwm gwleidyddol yng Nghymru ynghylch a ddylai Senedd Cymru fodoli.
Mae rhai Ceidwadwyr wedi dadlau y dylai eu plaid gefnogi gael gwared â'r sefydliad er mwyn denu mwy o bleidleiswyr.
Mae'r blaid ym Mae Caerdydd yn gwrthod y syniad hwnnw'n gryf, i'r graddau bod ymgyrchwyr y blaid yn dweud bod aelodau sydd o blaid diddymu'r Senedd wedi'u gwahardd rhag sefyll fel ymgeiswyr ar gyfer y sefydliad.
Fe wnaeth un grŵp sy'n gwrthwynebu datganoli - Plaid Diddymu'r Cynulliad - fethu ag ennill unrhyw seddi yn yr etholiad diwethaf.
'Ydy'r Senedd yn ychwanegu gwerth at Gymru?'
Cafodd y Senedd ei sefydlu ym 1999 yn dilyn refferendwm ddwy flynedd ynghynt, ac roedd yn cael ei galw'n Gynulliad Cenedlaethol yn wreiddiol.
Gan ei bod wedi'i chreu gan ddeddf Seneddol, byddai angen i Lywodraeth y DU benderfynu dod â'r sefydliad i ben.
Mae Reform yn teimlo'n hyderus y gallan nhw wneud yn dda yn etholiadau Senedd Cymru y flwyddyn nesaf.
Dywedodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, wrth y gynhadledd fod etholiadau Cymru, ynghyd ag etholiad Senedd yr Alban ac isetholiad Caerffili fis nesaf, yn "floc adeiladu" tuag at lwyddiant y blaid yn San Steffan yn y dyfodol.
Dywedodd Laura Anne Jones wrth y gynhadledd: "Mae angen i ni geisio gwneud i'r Senedd weithio i bobl Cymru, ond os na fydd, mae angen i ni gwestiynu a yw'r Senedd yn ychwanegu gwerth at Gymru mewn gwirionedd."
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Ms Jones nad oedd y Senedd yn "gweithio i Gymru gyfan" ar hyn o bryd.
"Felly os daw pwynt lle dydyn ni hyd yn oed ddim yn gallu ei gwneud i weithio i Gymru, yna mae'n rhaid i ni gwestiynu pam ei bod yno."
Pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n cwestiynu a ddylai'r Senedd fodoli, dywedodd: "Yn y dyfodol."
Gwadodd ei bod yn galw am refferendwm, ond ychwanegodd: "Fel plaid dydyn ni ddim yn diystyru unrhyw beth.
"Os ydych chi'n byw yng Nghymru, a hoffech chi ei gweld yn parhau os nad yw'n gweithio i Gymru?
"Rydym am wneud i'r Senedd weithio i bobl Cymru yn gyntaf. Dyna ein blaenoriaeth," meddai.
'Farage ddim yn byw yng Nghymru, yw e?'
Mae Nigel Farage wedi dweud yn y gorffennol na fyddai'n gadael pobl sy'n gwrthwynebu datganoli i gynrychioli'r blaid.
Dywedodd wrth ITV: "Does dim lle i hyn. Rydyn ni'n gweld datganoli ar draws llawer o Loegr nawr hefyd.
"Mae'n amser i bawb yma yng Nghymru dderbyn y peth."
Pan wnaed y pwynt i Ms Jones bod ei safbwynt hi yn mynd yn erbyn un Mr Farage, dywedodd: "Dyw Nigel Farage ddim yn byw yng Nghymru, yw e?
"Rwy'n dwli arno fe, mae'n wych. Alla i ddim disgwyl iddo fe fod yn brif weinidog."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.