Diddymu caniatâd cynllunio canolfan antur ddadleuol Bae Ceibwr

Mae Bae Ceibwr wedi ei leoli o fewn ardal gadwraeth arbennig
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr bywyd gwyllt wedi ennill brwydr gyfreithiol i ddiddymu caniatâd cynllunio ar gyfer canolfan antur newydd ddadleuol ger Bae Ceibwr yn Sir Benfro.
Mae'r ganolfan, ym mhentre' Trewyddel, ar gyfer cwmni Adventure Beyond, eisoes yn cael ei hadeiladu.
Fe ddaw'r penderfyniad gan yr Ustus Eyre yn dilyn gwrandawiad o'r Uchel Lys yn Hwlffordd ym mis Mehefin, wnaeth bara dau ddiwrnod.
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro y byddan nhw yn ystyried y dyfarniad "yn fanwl cyn pennu unrhyw weithredoedd pellach".
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
- Cyhoeddwyd19 Mehefin
Roedd grŵp Wild Justice wedi dadlau y byddai'r ganolfan newydd yn cynyddu gweithgareddau fel arforgampau (coasteering) mewn lleoliad oedd yn perthyn i ardal o gadwraeth arbennig ym Mae Ceredigion, ardal forol o gadwraeth arbennig yn Sir Benfro a safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Mae'r clogwyni yng Ngheibwr yn gartref i adar fel gwylogod, brain coesgoch ac adar drycin y graig.
Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd rhaid diddymu'r caniatâd cynllunio a roddwyd i'r ganolfan ac y bydd rhaid ailystyried unrhyw gais.
Roedd y grŵp wedi dwyn yr achos am adolygiad barnwrol yn sgil pryderon y gallai'r gweithgareddau oedd yn deillio o'r ganolfan amharu ar fywyd gwyllt ym Mae Ceibwr, er bod y ganolfan ym mhentref Trewyddel gerllaw.

Mae'r ganolfan newydd yn Nhrewyddel eisoes yn cael ei hadeiladu
Cytunodd yr Ustus Eyre y dylid caniatáu'r her gyfreithiol ar ddwy sail.
Yn gyntaf, fe ddyfarnodd nad oedd arolwg o adar oedd yn bridio ym Mae Ceibwr wedi cael ei rannu'n llawn gyda'r pwyllgor oedd yn ystyried y cais cynllunio.
Yn ail, fe benderfynodd y barnwr nad oedd y pwyllgor wedi cael y wybodaeth lawn am yr effaith bosib ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Aberarth-Carreg Wylan, a'r posibilrwydd y gallai gweithgareddau arforgampau darfu ar wylogod - math o aderyn sy'n perthyn i'r safle hwnnw.
Mae mudiad Wild Justice wedi disgrifio'r dyfarniad fel "buddugoliaeth i bobl leol".
Mae cwmni Adventure Beyond wedi cael cais am ymateb.
'Parchu penderfyniad y llys'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro eu bod yn "cydnabod y farn yn yr achosion adolygiad barnwrol ynghylch y penderfyniad cynllunio i newid defnydd Yr Hen Orsaf Bws, Trewyddel i ganolfan antur awyr agored gyda chyfleusterau storio cysylltiedig".
"Penderfynodd y llys yn erbyn awdurdod y parc cenedlaethol ar ddwy sail weithdrefnol, tra'n gwrthod tair sail arall.
"Nid yw heriau Adolygiad Barnwrol yn ystyried teilyngdod y penderfyniad cynllunio, ond yn hytrach y broses y daethpwyd i benderfyniad.
"Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn parchu penderfyniad y llys a bydd yn adolygu'r farn yn fanwl, cyn pennu unrhyw weithredoedd pellach sydd eu hangen gan yr awdurdod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.