Siop yn 'ofod diogel y gymuned'

Mae Sharon Beck o Fwcle wedi'i henwebu ar gyfer gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC
- Cyhoeddwyd
Mae siop yn un o drefi mwyaf Sir y Fflint wastad yn llawn pobl, sydd ddim o reidrwydd yno i brynu unrhyw beth.
Mae drysau Shaz's Shabby Chic yn agored i unrhywun sydd eisiau mynd i mewn yno am gyngor neu sgwrs.
Mae'r perchennog, Sharon Beck, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel Shaz, wedi'i henwebu ar gyfer gwobr Gwneud Gwahaniaeth y BBC.
Siop digon cyffredin yw hi sy'n gwerthu pob math o nwyddau lleol. Ond, yn y cefn mae gofod diogel ac ystafell sy'n cael ei defnyddio gan y gymuned.
'Man diogel'
"Dwi wedi bod yn y siop yma rŵan ers rhyw ddwy flynedd ac mae wedi troi yn fan diogel i sawl person," meddai Shaz.
"Un diwrnod dyma 'na gyn-filwr yn dod i fewn i'r siop am sgwrs, ac ar ôl dipyn o amser dyma fo'n dechrau beichio crïo a sôn am y trafferthion yr oedd yn ei gael.
"Dyma fi'n meddwl wedyn y base hi'n syniad da dechrau caffi wythnosol i ddynion allu dod at ei gilydd oes oedden nhw'n teimlo'n unig."
Yn ogystal â'r caffi i ddynion mae'r siop hefyd yn gartref i ymarferion corau, clwb gweu, dosbarthiadau amrywiol i blant a gwersi ymarfer corff.
Mae Shaz hefyd yn gyfrifol am drefnu ffeiriau lleol yn aml ym Mwcle yn enwedig o amgylch cyfnod y Nadolig gan addurno'r ganolfan siopau gyda choed Nadolig a sicrhau ymweliad gan Sion Corn i'r plant.

Elaine Yates wnaeth enwebu Sharon ar gyfer y wobr
Yr un wnaeth enwebu Shaz ar gyfer y wobr oedd Eileen Yates.
Roedd Eileen yn arfer byw ym Mwcle a daeth hi i wybod am Shaz a'i gwaith cymunedol tua degawd yn ôl.
"Mae hi'n berson mor arbennig sydd byth yn chwilio am glôd. Hi yw'r un o'r bobl fwyaf clên ac anhunanol dwi erioed wedi cwrdd.
"Yng nghefn ei siop mae hi wedi troi yr ystafell fawr 'ma yn hwb gymunedol ac mae sawl person wedi gwneud ffrindiau oes o ganlyniad i gwrdd yno. Mae'n ofod diogel a chynnes.
"Dwi'n siŵr y buasai unrhyw un sy'n nabod Sharon yn cytuno ei bod hi'n rhoi pobl eraill o'i blaen hi bob tro a sut y gallai wella Bwcle am y gorau. Mae hi'n llawn haeddu cael ei henwebu ar gyfer y wobr yma," meddai.

Mae'r ystafell yng nghefn siop Sharon - neu Shaz - yn cael ei ddefnyddio'n ddyddiol gan y gymuned
Ar ôl clywed ei bod wedi cael ei henwebu am y wobr, roedd Sharon yn credu'n wreiddiol mai jôc oedd y cyfan.
"Tydw i ddim yn berson sy'n chwilio am glod am yr hyn dwi yn ei neud.
"Dwi'n gwneud yr hyn dwi yn ei wneud oherwydd dwi'n credu fod yr angen yno i helpu pobl.
"Dwi hefyd yn gwneud hyn o ganlyniad i ddigwyddiadau sydd wedi digwydd yn fy mywyd personol i.
"Mae gen i ddau o blant sydd bellach yn oedolion sydd ag anghenion arbennig a doedd dim llawer o help i mi tra oedden nhw'n ieuengach, roedd gan fy Mam dementia ac roeddwn yn gofalu amdani help fawr o help chwaith.
"Fe wnaeth fy nhad gyflawni hunan-laddiad yn 92 oed tua wyth mlynedd yn ôl, ac mae'r profiadau yma i gyd wedi gwneud i mi sylweddoli cymaint mae pobl yn ei gweld hi'n anodd ar brydiau," meddai.
Yn ogystal â Sharon Beck, yng nghategori Cymydog Arbennig mae Eifion Williams (Llambed), Suzanne a Tim (Môn) a Macy Williams (Wrecsam) wedi'u henwebu hefyd.
Bydd Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 20 Medi 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd19 Awst