Cwest: Tân 'digymell' yn bosib yn achos Llanrwst
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed y gallai tân a laddodd dau ddyn fod wedi ei ddechrau gan "losgi digymell" y tu mewn i beiriant sychu dillad.
Bu farw Doug McTavish, 39 oed, a Bernard Hender, 19 oed, yn y tân yn Llanrwst, Conwy ym mis Hydref 2014.
Dywedodd cyn-bennaeth diogelwch cynnyrch i gwmni Whirlpool bod tystiolaeth gan lygad dyst yn awgrymu bod defnydd wedi mynd ar dân o fewn drwm y peiriant.
Mae'r cwest yn Abergele yn ymchwilio i rôl y peiriant yn y tân.
Dywedodd Larry Latack ei fod yn arwyddocaol bod dyn wnaeth oroesi'r tân, Garry Lloyd Jones, wedi gweld fflamau'n dod o'r peiriant.
Dywedodd Mr Latack, oedd yn bennaeth diogelwch cynnyrch i Whirlpool, wrth y cwest: "Mae'n arwyddocaol iawn. Llosgi digymell - y disgwyl yw y byddai'n dod o'r drwm."
Ddydd Iau, clywodd y gwrandawiad nad oedd yn anochel bod y tân wedi dechrau yn y peiriant.
Ond mae'r syniad y gallai llosgi digymell fod yn gyfrifol wedi ei wrthod gan arbenigwr annibynnol yn gweithio i gwmni yswiriant.
Dywedodd Dr Paul Jowett mai'r tebygrwydd oedd mai dillad tamp oedd yn y peiriant sychu dillad pan ddechreuodd y tân.
Soniodd mai nam ar ddrws y peiriant pan ddaeth i gysylltiad gyda darnau bach o ddefnydd oedd achos mwyaf tebygol y tân yn ei farn o.
Dywedodd ei fod yn debyg i Mr McTavish agor drws y peiriant tra ei fod yn gweithio ac yna peidio ei droi i ffwrdd.
Gallai hynny wedi galluogi i gerrynt fynd drwy swits y drws, a gallai gwreichionen fod wedi gallu cynnau darn bach o ddefnydd.
Cafodd y gwrandawiad ohirio am y tro ddiwedd prynhawn dydd Gwener, ac fe fydd y Crwner yn trefnu dyddiad ar gyfer gweddill y dystiolaeth.
Mae'n debyg fod diwrnod o dystiolaeth yn weddill i'w gyflwyno, ond ni fydd y cwest yn ail-ymgynull tan fis Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2017