Gwahardd nyrs am dwyll yswiriant damwain car o £17,000

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Ystrad FawrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Rodd Nicola Bartlett yn gweithio fel nyrs yn Ysbyty Ystrad Fawr

Mae nyrs wedi cael ei gwahardd o'i gwaith am flwyddyn ar ôl esgus cael ei hanafu mewn damwain car er mwyn hawlio arian yswiriant.

Ond dywedodd Nicola Bartlett, 50, ei bod yn gobeithio dychwelyd i'w gwaith wedi diwedd cyfnod y gwaharddiad oherwydd bod ganddi "lawer o bethau positif i gyfrannu at y proffesiwn nyrsio".

Roedd Bartlett wedi derbyn £16,764 o arian yswiriant ar ôl ffugio damwain gyda'i brawd yn 2010, a honni ei bod wedi ei hanafu yn y digwyddiad.

Ond cafodd ei dal fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i garej Easifix yn y Coed Duon, oedd wedi helpu cwsmeriaid i ffugio 28 o ddamweiniau er mwyn hawlio cyfanswm o £750,000 o arian yswiriant rhwng 2009 a 2011.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Daeth holl dwyll y garej i'r amlwg pan ddangosodd delweddau camerau cylch cyfyng eu bod wedi gyrru cerbyd i mewn i dryc codi

Roedd Bartlett eisoes wedi cael dedfryd o naw mis yn y carchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, yn ogystal â 250 awr o waith cymunedol a gorchymyn i ad-dalu £1,350, mewn achos yn Llys y Goron Caerdydd yn 2015.

Dywedodd y barnwr Daniel Williams: "Fe wnaethoch chi ddweud celwydd wrth eich cwmni yswiriant, a pharhau gyda'r celwyddau hynny yn yr achos. Erbyn hynny roeddech chi wedi'ch caethiwo gan y celwyddau roeddech chi wedi'i ddweud ynghynt."

Cafodd ei diswyddo fel nyrs yn adran ddamweiniau brys Ysbyty Ystrad Fawr yn Hengoed, Caerffili yn dilyn yr achos, ac mae hi bellach yn gweithio mewn cartref gofal preifat.

Mewn llythyr i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, cyfaddefodd Bartlett ei bod yn "teimlo cywilydd" am yr hyn a wnaeth, a'i bod yn cytuno ei bod "wedi dwyn anfri" ar ei swydd.

Ond pan fydd ei gwaharddiad yn dod i ben ym mis Mai 2018, meddai, "rydw i'n teimlo fod gen i wybodaeth a sgiliau eang, a nifer o bethau positif i'w gynnig i'r proffesiwn nyrsio".