Disgyblion Rhosgadfan i ddychwelyd i'r ysgol wedi storm
- Cyhoeddwyd
Fe fydd disgyblion ysgol gynradd yng Ngwynedd yn dychwelyd i'w hadeilad yr wythnos hon yn dilyn difrod sylweddol i do'r ysgol mewn storm dros gyfnod y Nadolig.
Fe fydd disgyblion Ysgol Rhosgadfan yn dychwelyd i'w hadeilad arferol ddydd Mawrth, ar ôl i waith atgyweirio sylweddol gael ei gwblhau i ddifrod gafodd ei achosi gan storm Barbara.
Cafodd disgyblion eu haddysgu mewn adeiladau cymunedol yn y pentref dros dro.
Roedd hanner disgyblion yr ysgol yn cael gwersi yn rhan o glwb pêl-droed lleol y Mountain Rangers, a'r gweddill yn defnyddio canolfan addysgiadol Cae'r Gors sydd gerllaw.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Rhosgafdan, Paul Carr: "Hoffwn ddatgan ein diolch fel ysgol i bawb sydd wedi ein cefnogi a chynorthwyo dros y cyfnod heriol yma, gan gynnwys y corff llywodraethol, staff, plant a rhieni.
"Mae'n wir dweud fod adeilad yr ysgol yn ôl i edrych ar ei orau. Er y difrod sylweddol a achoswyd yn sgil stormydd difrifol mis Rhagfyr, rydym wedi gallu defnyddio'r cyfle yma i foderneiddio yn sylweddol yn fewnol, ac felly braf adrodd fod da wedi dod allan o'r difrod."
Fe fydd cymuned yr ysgol yn cynnal prynhawn agored i'r cyhoedd rhwng 14:00 a 17:00 ddydd Sadwrn, 6 Mai er mwyn rhoi cyfle i bawb sydd wedi cefnogi'r ysgol weld y datblygiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2016