Ymestyn gwaharddiad ysmygu ar draeth
- Cyhoeddwyd

Traeth Little Haven oedd y cyntaf i gyflwyno gwaharddiad
Fe fydd gwaharddiad ysmygu ar draeth yn Sir Benfro'n cael ei ymestyn am gyfnod amhenodol.
Daeth gwaharddiad i rym ar draeth Little Haven ym mis Mawrth y llynedd, ac roedd i fod i bara am gyfnod prawf o flwyddyn. Mae Cyngor Sir Penfro nawr yn dweud y bydd yn parhau "am y dyfodol rhagweladwy".
Traeth Little Haven a thraeth Bae Caswell, Abertawe yw'r unig draethau di-fwg yng Nghymru, ond mae'r gwaharddiad yn un gwirfoddol yn y ddau le.
Mae'r grŵp Forest - sy'n lobïo ar ran ysmygwyr - yn amau'r angen am waharddiad o'r fath yn y lle cyntaf.
Dywedodd Cyngor Sir Penfro ei fod yn gobeithio ymestyn y gwaharddiad i draethau eraill "os fyddwn ni'n gweld digon o gefnogaeth".
Does yr un cyngor arall yng Nghymru â gwaharddiad ysmygu ar draethau nac yn bwriadu eu cyflwyno.

Traeth Bae Caswell yw'r traeth arall sydd â gwaharddiad ar ysmygu mewn grym
Yn ôl un o adroddiadau'r cyngor, doedd dim tystiolaeth o sbwriel ysmygu ar draeth Little Haven, ac yn ystod ymweliadau ar hap â'r traeth "doedd dim adroddiadau o unrhyw un yn ysmygu ar y traeth".
Ond dywedodd Simon Clark, cyfarwyddwr Forest: "Does dim tystiolaeth bod ysmygu yn yr awyr agored yn creu risg i iechyd unrhyw un, felly dyw hwn ddim yn fater iechyd cyhoeddus.
"Ar adegau prin pan mae'r traeth yn llawn pobl - gŵyl banc braf er enghraifft - dylai ysmygwyr ddefnyddio'u synnwyr cyffredin a dangos ystyriaeth i bobl sy'n eistedd yn agos atyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2016