Lladd-dy'n mynd i'r wal yn 'costio arian i ffermwyr'

  • Cyhoeddwyd
Lladd-dy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y lladd-dy ar Stad Ddiwydiannol Hendy-Gwyn yn Hwlffordd

Mae tranc yr unig ladd-dy'n Sir Benfro oedd yn derbyn gwartheg i'w lladd wedi bod yn "ergyd drom" i'r diwydiant, meddai ffermwyr.

Aeth y cwmni tu ôl i fenter y lladd-dy, Emcol 2008 Ltd, i'r wal ym mis Ionawr 2016 gyda dyledion o £660,000 i dros 230 o gredydwyr.

Dywedodd un cyfarwyddwr fod hyn wedi digwydd o achos costau cynyddol a dyledion ariannol i'r cwmni.

Disgrifiodd John Sollis, ffermwr llaeth o Drefdraeth, gau'r lladd-dy fel "trychineb" i bobl yr ardal oedd yn aros i gael arian gan y cwmni.

Mae dogfennau yn Nhŷ'r Cwmnïau'n dangos fod £107,000 yn ddyledus gan y lladd-dy i un gwerthwr da byw, tra bo symiau pum ffigwr yn ddyledus i eraill yn yr ardal.

Yn ei adroddiad, mae diddymwr y cwmni, Gary Stones yn dweud fod taliadau i gredydwyr oedd heb eu gwarantu yn "dibynnu'n llwyr ar gasglu'r dyledion llyfrau Gwyddelig".

John Sollis
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i £15,000 yn ddyledus i John Sollis

Dywed yr adroddiad fod bron i £470,000 yn ddyledus i Emcol gan gwmni o'r enw Darcy Meats o Iwerddon.

Mae bron i £15,000 yn ddyledus i John Sollis gan Emcol.

Dywedodd Mr Sollis: "Roedd yn drychineb o ran maint yr arian sydd wedi ei golli yn yr ardal a nawr heb ladd-dy i anfon stoc iddo...rhaid i stoc fynd yn bellach i ffwrdd ac mae hyn yn costio arian i ni."

Mae'r lladd-dy agosaf yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin.

Stephen James
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl llywydd yr NFU, Stephen James, mae cau'r lladd-dy wedi arwain at golledion i ffermwyr

Mae ychydig dros £1000 yn ddyledus i lywydd undeb yr NFU, Stephen James, sydd yn dweud fod colli'r lladd-dy'n "ergyd enfawr" gan ei fod yn trin da byw oedd wedi eu hanafu.

Esboniodd fod unrhyw dda byw sydd wedi eu hanafu nawr yn gorfod cael eu saethu ar y fferm, gan olygu colledion i ffermwyr.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr Emcol, Helen Lewis, fod cwymp y lladd-dy o achos "ffigwr sylweddol o arian" oedd yn ddyledus i'r cwmni gan gwmni o'r Iwerddon, a'r "costau cynyddol o redeg lladd-dy".

Ychwanegodd fod ganddi "pob cydymdeimlad" gyda'r ffermwyr oedd wedi colli arian "ac roedd hi'n adnabod llawer yn bersonol."