Trefnu cyfres o weithgareddau i drafod marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cyfres o weithgareddau wedi'u trefnu yn Sir Ddinbych i annog pobl i fod yn fwy parod i drafod marwolaeth.
Fel rhan o wythnos ymwybyddiaeth marwolaeth, mae cyfle i bobl fynychu gweithdai yn Llanelwy, Y Rhyl a Dinbych i drafod materion sy'n cynnwys yr hawl i farw, rhoi organau ac ailafael ar fywyd yn dilyn profedigaeth.
Gobaith gweithwyr Hosbis San Cyndeyrn, sy'n rhan o glymblaid sy'n trefnu'r digwyddiadau, yw ceisio newid agweddau a helpu pobl ymdopi gyda galar drwy rannu profiadau gydag eraill sydd yn yr un sefyllfa.
Yn ôl yr Uwch Ymarferydd Nyrsio yn Hosbis San Cyndeyrn, Elinor Hoyle dyw hosbis "ddim yn le trist".
'Sesiynau siarad'
"'Da ni'n trio rhoi bywyd i ddyddiau yn lle dyddiau i fywyd," meddai.
"Mae pobl yn meddwl bod yr hosbis yn lle trist ac ein bod ni i gyd reit miserable yma. Tyda ni ddim, mae 'na lot o hwyl i'w gael yma."
Yn ogystal â sesiynau siarad mae gweithfeydd hefyd yn ystod yr wythnos ble fydd cefnogwyr, cwnselwyr ysbrydol a gweinidogion yn rhoi sgyrsiau yn y "caffi marwolaeth".
Bydd hefyd cyfle i bobl glywed gan gyfreithwyr ar sut i fynd ati i drefnu angladd a'r costau sydd ynghlwm â hynny.
'Siarad am farwolaeth'
Yn ôl Ms Hoyle mae'n gyfle i deuluoedd hefyd ymdopi gyda'r sefyllfa ac yn gyfle i bobl siarad am farwolaeth ac ynglŷn â'u dymuniadau.
"Yn aml rydym yn gweld pan mae pobl yn dod i'r hosbis sydd ddim yn gwybod beth maen nhw eisiau ac mae eu teuluoedd yn gallu bod yn stressed ac wedi ypsetio," meddai.
"Tydyn nhw ddim yn gallu siarad am beth sy'n mynd i ddigwydd, ond fedrwn ni ddim dianc o'r ffaith ein bod ni gyd yn mynd i farw rhyw ben.
"Mae'n lot gwell i bobl siarad ynglŷn â marwolaeth a beth yw eu dymuniadau."
Mae rhestr lawn o'r gweithdai ar wefan Hosbis San Cyndeyrn.