Dechrau astudiaeth gwerth £3.4m ar hyd arfordir Cymru

  • Cyhoeddwyd
Porth y RhawFfynhonnell y llun, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Mae'r gwaith wedi dechrau o asesu safleoedd twristiaeth ar hyd arfordir Cymru am effaith newid hinsawdd, erydu a lefelau'r môr fel rhan o brosiect gwerth £3.4m.

Mae'r gwaith yn cynnwys cloddio, mapio'r môr a chreu modelau o dirwedd yr ynysoedd oddi ar Sir Benfro a Phen Llŷn yng Ngwynedd.

Bwriad y gwaith ymchwil yw diogelu'r safleoedd rhag risg newid hinsawdd a lleihau unrhyw effaith posib ar economi'r ardaloedd dan sylw.

Bydd safleoedd ar arfordir Iwerddon hefyd yn elwa.

Arian o Ewrop

Mae'n gynllun pum mlynedd sydd wedi ei ariannu gan arian o'r Undeb Ewropeaidd, gyda'r bwriad o geisio cefnogi cynlluniau ar gyfer rheoli newid hinsawdd yn y dyfodol, ac edrych ar newidiadau hirdymor i arfordiroedd Cymru ac Iwerddon.

Bydd yna gyfle hefyd i hyfforddi ac annog datblygu cyfleoedd ar gyfer twristiaid.

Disgrifiad,

Hywel Griffiths o Brifysgol Aberystwyth yn esbonio pwrpas yr astudiaeth

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy'n arwain y prosiect, yn ogystal â Phrifysgol Aberystwyth, a Chanolfan Archeoleg ac Arloesedd Iwerddon, a'r Arolwg Daearegol yn Iwerddon.

Er mwyn gallu cael yr olygfa orau ar gyfer y gwaith, bydd y tîm yn hedfan dros rai o rannau mwyaf anhygyrch o'r arfordir i dynnu lluniau, a fydd yn cael eu defnyddio i greu modelau cyfrifiadurol 3D o bob ardal.

Bydd ymchwilwyr o Ddulyn hefyd sganio gwely'r môr, ac fe fydd y gwaith yn rhoi darlun cliriach o'r arfordir ar hyd Môr yr Iwerddon.

Dywedodd Dr Toby Driver, uwch ymchwilydd awyr sy'n gweithio ar y prosiect, fod rhai rhannau o Gymru nad ydyn nhw'n gwybod amdanyn nhw, eisoes wedi diflannu i'r môr.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Toby Driver yn hedfan dros yr ardaloedd er mwyn gallu casglu gwybodaeth ar gyfer y gwaith

"Dyna beth ydi diben y prosiect newydd, ein bod yn gallu cael gwir syniad o'r hyn sy'dd wedi cael ei golli yn ystod y blynyddoedd diwethaf, beth sydd wedi ei golli yn ystod y ganrif ddiwethaf, a pha mor gyflym mae hyn yn digwydd," meddai.

"Mae gennym y meddalwedd cyfrifiadurol gorau y gallwn ei gael, yr arbenigwyr gorau y gallwn eu cael yn y prosiect hwn, yn gweithio gyda'i gilydd i gael gwell dealltwriaeth o sut i fapio erydiad arfordirol".

Bydd daearyddwyr o Brifysgol Aberystwyth hefyd yn dadansoddi cofnodion hanesyddol o dywydd eithafol i weld sut mae cymunedau arfordirol wedi ymdopi yn y gorffennol.

Byddan nhw'n edrych am batrymau mewn gweithgarwch storm i weld a ellir deall yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol.

Dywedodd Hywel Griffiths, uwch ddarlithydd mewn daearyddiaeth ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei bod yn bwysig gwybod pa mor gyflym mae pethau'n newid.