Achos camweinyddu yn erbyn ditectif achos Ian Watkins

  • Cyhoeddwyd
Ian WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ian Watkins ei garcharu yn 2013

Mae ditectif yn wynebu gwrandawiad camweinyddu yn ymwneud â'i ymchwiliad i achos Ian Watkins, gafodd ei garcharu am gamdrin plant yn rhywiol.

Mae'r Ditectif Ringyll Andrew Whelan yn cael ei gyhuddo o beidio ag ymateb yn ddigon cyflym nad yn ddigon cryf i'r cyhuddiadau yn erbyn cyn ganwr y Lostprophets, ddaeth i'r wyneb yn gyntaf yn 2010.

Mae disgwyl i wrandawiad gan Heddlu De Cymru, ym Mhen-y-bont bara dros wythnos.

Ar ddechrau'r gwrandawiad ddydd Mercher, disgrifiodd cynrychiolydd y Ditectif Whelan, John Beggs ef fel "swyddog rhagorol".

Cafodd Watkins, 39 oed, ei garcharu am 35 mlynedd yn 2013 ar ôl pledio'n euog i 13 cyhuddiad o gamdrin plant yn rhywiol, gan gynnwys treisio babi.

Penderfynodd cadeirydd y panel y bydd gwrandawiad Mr Whelan yn cael ei gynnal yn gyhoeddus.