Ian Watkins: 35 mlynedd o ddedfryd

  • Cyhoeddwyd
Ian WatkinsFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Ian Watkins i'r cyhuddiadau yn ei erbyn fis diwetha'

Mae cyn ganwr grŵp y Lostprophets wedi cael ei ddedfrydu i 35 mlynedd - gan gynnwys 29 mlynedd o garchar - wedi iddo bledio'n euog fis diwethaf i gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys ceisio treisio babi.

Plediodd Ian Watkins, 36 oed o Bontypridd, yn euog i 13 o gyhuddiadau yn ei erbyn yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Tachwedd.

Cafodd dwy fenyw - mamau'r plant a gafodd eu cam-drin - eu dedfrydu i 14 ac 17 o flynyddoedd wedi iddyn nhw hefyd bledio'n euog i gyfres o gyhuddiadau.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus Royce wrth Watkins: "Chi wnaeth ddechrau a chyfarwyddo'r gweithredoedd yma. Dydych chi ddim wedi dangos edifeirwch o gwbl, ac rydych yn ddylanwad llygredig."

Mae'r ddedfryd yn cynnwys 29 o flynyddoedd yn y carchar gyda chwe blynedd ar drwydded i ddilyn y cyfnod yna.

Manylion 'erchyll'

Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu, fe glywodd y llys bod Watkins wedi gyrru neges destun at ffrind gan ddweud:

"Roedd o'n lot o hwyl (It was mega lolz) a dydw i ddim yn gwybod pam fod pawb wedi cynhyrfu cymaint.

"Chafodd y babi ddim niwed. Nes i ond pledio'n euog er mwyn osgoi achos llawn. Dydw i ddim yn bidoffeil."

Gofynnodd bargyfreithiwr Watkins, Sally O'Neill QC, i'r barnwr ystyried lleihau'r ddedfryd am fod Watkins wedi pledio'n euog.

Ond gwrthododd Mr Ustus Royce hynny, gan ddweud fod hynny'n "gwbl afrealistig" gan ychwanegu bod Watkins yn euog o "gam-drin rhywiol erchyll o fabanod".

Ychwanegodd Ms O'Neill: "Mae Watkins, yn rhy hwyr yn y dydd, wedi sylweddoli difrifoldeb yr hyn ddigwyddodd, ac mae'n ddrwg iawn iawn ganddo am yr hyn a wnaeth."

Clywodd y llys hefyd bod Watkins o dan oruchwyliaeth bob 15 munud wrth aros am y gwrandawiad rhag ofn iddo geisio lladd ei hun.

Cyd-ddiffynyddion

Wrth siarad ar ran Menyw A, un o'r cyd-ddiffynyddion, dywedodd Jonathan Fuller QC ei bod "yn ferch fregus wnaeth ganiatáu i'w hun gael ei llygru a'u dylanwadu gan Watkins".

"Watkins wnaeth ei chyflwyno i fyd cyffuriau, gan gynnwys heroin, ac fe aeth i le tywyll iawn," ychwanegodd.

Roedd hi "wedi ei chwalu'n llwyr gan yr hyn a wnaeth".

Ar ran Menyw B, dywedodd Christine Laing QC ei bod yn wreiddiol wedi gwrthod mynd â'i babi i gwrdd gyda Watkins, ond ei bod yn y diwedd wedi gwneud hynny.

Ychwanegodd fod gan Menyw B salwch seiciatrig, ond roedd tystiolaeth feddygol yn dangos na chafodd y babi niwed corfforol.

Dedfrydu

Wrth gyhoeddi'r ddedfryd dywedodd y barnwr fod yr achos yma wedi torri tir newydd. Dywedodd:

"Fe fydd unrhyw berson parchus sy'n gwrando ar yr achos yma yn ffieiddio mewn anghrediniaeth. Roedd gennych nifer fawr o gefnogwyr, ac roedd hynny'n rhoi grym i chi.

"Fe wnaethoch chi ddefnyddio'r grym i hudo cefnogwyr ifanc er mwyn cael at eu plant."

Dywedodd y barnwr wrth Fenyw A: "Roeddech chi'n fam ac roedd eich babi yn ddeg mis oed. Roedd yn ymddiried ynddoch chi ac fe wnaethoch chi fradychu hynny.

"Fe wnaethoch chi gyflwyno'ch babi iddo fel y gallai geisio treisio'ch babi. Ni all unrhyw frad fod yn fwy na hynny."

Dywedodd wrth Fenyw B: "Fe wnaethoch chi gynllunio gweithredoedd anllad i'ch babi gan gynnwys rhyw gydag anifeiliaid. Rydych yn son am eich cig a gwaed eich hun yn y fan hyn, ond doeddech chi ddim yn trin eich babi fel bod dynol."

Siaradodd gyda Watkins - oedd erbyn hyn yn crynu yn y doc - yn olaf, gan ddweud: "Chi wnaeth ddechrau a chyfarwyddo'r gweithredoedd yma.

"Dydych chi ddim wedi dangos edifeirwch o gwbl, ac rydych yn ddylanwad llygredig."

Ychwanegodd y barnwr bod adroddiad seiciatryddol yn dweud fod Watkins yn risg sylweddol i'r cyhoedd, ac yn enwedig i ferched gyda phlant ifanc.

Roedd yn siarad gyda'r tri pan ychwanegodd: "Nid yw'n bosibl i ddweud pa niwed seicolegol sydd wedi cael ei wneud i'r plant yma, ond mae'n debyg o achosi problemau am weddill eu hoes pan fyddan nhw'n clywed y gwir yn y pen draw."