Jamie Roberts yn gapten Cymru ar gyfer taith yr haf

  • Cyhoeddwyd
Jamie RobertsFfynhonnell y llun, Rex Features

Y canolwr Jamie Roberts fydd yn arwain carfan rygbi Cymru ar ei thaith yr haf yma, gyda 13 chwaraewr heb gap yn rhan o'r garfan o 32.

Y blaenwyr sy'n debyg o ennill eu capiau cyntaf ar y daith yw Seb Davies, Adam Beard, Ryan Elias, Ollie Griffiths, Wyn Jones, Rory Thornton a Thomas Young.

Aled Davies, Keelan Giles, Owen Williams, Rhun Williams a Tomos Williams yw'r olwyr sydd eto i ennill eu capiau cyntaf.

Mae 12 Cymro yn rhan o garfan y Llewod, ac felly ddim ar gael ar gyfer y daith gyda Chymru.

McBryde yn brif-hyfforddwr

Does dim lle ar gyfer y mewnwr Lloyd Williams, y maswr Rhys Patchell na'r blaenasgellwr James Davies yn y garfan.

Ni wnaeth Roberts, 30, ddechrau unrhyw gêm yn y Chwe Gwlad eleni, ac er sïon yn y wasg y byddai yng ngharfan y Llewod, ni chafodd ei gynnwys.

Gyda Warren Gatland yn arwain tîm Prydain ac Iwerddon a Rob Howley yn ei gynorthwyo, hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde fydd yn brif-hyfforddwr ar gyfer y gemau yn erbyn Tonga a Samoa

Bydd Cymru'n herio Tonga yn Auckland ar 16 Mehefin cyn herio Samoa yn Apia wythnos yn ddiweddarach.

line break

Carfan Cymru

Blaenwyr: Scott Baldwin, Jake Ball, Adam Beard, Kristian Dacey, Seb Davies, Ryan Elias, Rob Evans, Tomas Francis, Ollie Griffiths, Cory Hill, Ellis Jenkins, Wyn Jones, James King, Samson Lee, Josh Navidi, Nicky Smith, Rory Thornton, Thomas Young.

Olwyr: Cory Allen, Gareth Anscombe, Alex Cuthbert, Aled Davies, Gareth Davies, Sam Davies, Steff Evans, Keelan Giles, Tyler Morgan, Jamie Roberts (capten), Owen Williams, Rhun Williams, Scott Williams, Tomos Williams.