Galw am gyhoeddi maint cymorth ariannol i Aston Martin

  • Cyhoeddwyd
Car Aston Martin

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gorchymyn gan y Comisiynydd Gwybodaeth i gyhoeddi manylion y cymorth ariannol gafodd ei roi i Aston Martin.

Llynedd fe gyhoeddodd y cwmni y byddan nhw'n dechrau gwaith ar geir moethus newydd ym Mro Morgannwg.

Roedd gweinidogion wedi gwrthod datgelu faint o arian cyhoeddus fydd y cwmni'n ei gael fel rhan o'r fargen.

Ond nawr mae'r comisiynydd gwybodaeth Elizabeth Denham wedi mynnu bod yn rhaid iddyn nhw wneud hynny.

Dywedodd y llywodraeth y byddan nhw nawr yn ystyried eu camau nesaf.

'Anfantais masnachol'

Cafodd y cais am y wybodaeth ei wneud ym mis Chwefror 2016 gan ddyn busnes, Tom Gallard, dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae gan y llywodraeth nawr 35 diwrnod i ymateb i'r cais, oedd yn gofyn am "fanylion y cymorth ariannol gafodd ei gytuno ag Aston Martin er mwyn creu 750 o swyddi yn Sain Tathan".

Roedd y llywodraeth wedi gwrthod datgelu'r wybodaeth i ddechrau, gan ddweud y byddai'n rhoi diddordebau masnachol "dan anfantais".

Wedi i Mr Gallard apelio yn erbyn y penderfyniad, mynnodd y llywodraeth y byddai datgelu'r wybodaeth yn effeithio ar eu gallu i sicrhau "gwerth am arian" wrth drafod â chwmnïau eraill.

Ffynhonnell y llun, Welsh Government
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y car yn cael ei adeiladu ar y safle yma yn Sain Tathan

Ond dadl Mr Gallard oedd ei fod er budd i'r cyhoedd i wybod "sut mae symiau mawr o arian y trethdalwyr yn cael ei wario" fel bod modd iddyn nhw benderfynu "a oedd hi'n fargen dda ai peidio".

Dywedodd Ms Denham fod y llywodraeth wedi cyhoeddi faint o arian maen nhw wedi ei roi i gwmnïau eraill yn y gorffennol.

Ychwanegodd fod y broses o geisio am gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru eisoes yn un trwyadl.

Byddai'r swm o arian oedd yn cael ei roi i gwmnïau eraill felly yn annhebygol o gael ei effeithio petai'r swm gafodd ei roi i Aston Martin yn cael ei gyhoeddi.

'Afresymol'

Fe wnaeth y llywodraeth hefyd ddadlau y byddai datgelu'r wybodaeth yn "anfanteisio rheolaeth effeithiol o faterion cyhoeddus".

Ond fe benderfynodd y comisiynydd nad oedd hynny'n safbwynt rhesymol.

Mae gan y llywodraeth yr hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n nodi penderfyniad y Comisiynydd gwybodaeth ac yn ystyried y camau nesaf."