Llygredd cerosin Sir Gaerfyrddin yn uwch na'r disgwyl
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi ysgrifennu at aelodau cynulliad i ddweud ei bod hi'n debyg bod tua 140,000 litr o gerosin wedi llifo i nant yn Sir Gaerfyrddin.
Ddydd Mawrth, fe ddaeth i'r amlwg fod cerosin wedi gollwng i nant Pibwr o bibell sydd wedi ei gosod o dan yr A48.
Bu'n rhaid gosod rhwystrau i atal y llygredd rhag cyrraedd Afon Tywi.
Yn wreiddiol, roedd yna amcangyfrif bod rhwng 70,000 a 100,000 litr o'r tanwydd wedi gollwng, ond mewn llythyr at aelodau cynulliad, mae Lesley Griffiths, ynghyd â Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, yn dweud fod y ffigwr yn agosach at 140,000 litr.
Cyhuddodd Adam Price, Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Lywodraeth Cymru o lusgo traed wrth ymateb i'r digwyddiad, ond gwadu hynny wnaeth Ms Griffiths.
Mae'r llythyr hefyd yn nodi y bydd yn rhaid cau'r A48 i'r ddau gyfeiriad am benwythnos cyfan. Y tebygrwydd yw y bydd hynny'n digwydd rhwng dydd Gwener 14 Hydref a dydd Llun 17 Hydref.
Mae tua 7,500 o gerbydau'n defnyddio'r ffordd bob dydd, a bydd y traffig yn cael ei ddargyfeirio i fynd trwy bentref Llangynnwr.
Wrth ymateb, dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, y gallai cau'r A48 gael effaith andwyol ar economi'r gollewin, yn ogystal â rhoi pwysau enfawr ar drigolion yr ardal y bydd y traffig yn cael ei ddargyfeirio drwyddi.
Mewn datganiad, dywedodd cwmni Valero, sy'n defnyddio'r pibellau i gludo'r cerosin o'i phurfa yn Mhenfro, eu bod yn dal i geisio cyrraedd y rhan o'r bibell sydd wedi torri, ond ei bod hi'n broses gymhleth allai gymryd diwrnodau.
Tan hynny, dydy hi ddim yn bosib cadarnhau beth yn union sydd wedi digwydd na maint y tanwydd sydd wedi gollwng.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Valero yn dweud eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r effaith ar yr amgylchedd.
Yn y cyfamser, maen nhw'n dal i annog pobl leol i gadw eu ffenestri ar gau, rhag iddyn nhw anadlu anwedd y cerosin.