Eisteddfod yr Urdd yn paratoi i ddenu'r miloedd i Ben-y-bont
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd gwestai a busnesau ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn elwa yn fwy na'r disgwyl wrth groesawu Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesa', oherwydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd.
Yn ôl trefnwyr yr Urdd mae pobl wedi meddwl am westai y tu allan i Gaerdydd, gan wybod y bydd gwestai'r brifddinas yn orlawn yn y dyddiau cyn y gêm fawr ar 3 Mehefin.
"Mae wedi bod yn hwb ychwanegol i ardal Pen-y-bont, ac mae'r gwestai lleol wedi elwa," meddai Tegwen Ellis, cadeirydd pwyllgor yr Eisteddfod eleni.
"Ma' pobl o'r gogledd yn enwedig, a dwi'n dweud hynny fel rhywun sy'n briod â gog, wedi arfer dod ac aros yng Nghaerdydd, a byddai Caerdydd wedi bod yn lle naturiol i lawer ddewis i aros.
"Ond nawr maen nhw wedi gorfod meddwl eto, ac yn sicr mae gwestai lleol wedi elwa o hynny."
100,000 o ymwelwyr
Mae disgwyl i hyd at 100,000 fynychu'r wŷl sy'n cael ei chynnal ym Mhencoed ger Pen-y-bont rhwng 29 Mai a 3 Mehefin.
"Fe allai hefyd fod yn rhywle i bobl o Sbaen a'r Eidal sydd yma ar gyfer y gêm fawr fynd i gael blas go iawn o ddiwylliant Cymreig," meddai.
Mae ardal yr Eisteddfod eleni yn un eang ac yn ymestyn o Corneli yn y dwyrain, i Faesteg yn y gogledd a Phontypridd yn y dwyrain.
Cyngor Pen-y-bont wnaeth wahodd yr eisteddfod ond mae'r dalgylch yn cynnwys poblogaeth helaeth sydd o fewn ffiniau Rhondda Cynon Taf.
"Roeddwn yn benderfynol o'r cychwyn, er taw Pen-y-bont sy'n gwahodd yr ŵyl, i beidio ac eithrio y rhannau o'r tu allan i'r sir.
"Mae'r 'Steddfod yn gyfle unwaith mewn bywyd o ran oes ysgol i blentyn gael profiad o'r Urdd, felly rydym wedi gwneud yn siŵr fod plant o'r holl ddalgylch yn elwa.
"Mae 150 o blant cynradd yn cymryd rhan yn y sioe blant yn unig."
'Dathlu gwneud cystal'
Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â'r dalgylch oedd Eisteddfod Taf Elai yn 1991, a chyn hynny ym Maesteg yn 1979.
Dywedodd Tegwen Ellis fod y boblogaeth yn un mawr, ond mai pocedi o Gymraeg sydd yno'n bennaf yn ardaloedd Porthcawl, Efail Isaf a Llantrisant.
"Ar ôl dweud hynny mae canran y plant sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg yn uchel, ac mae nifer o'r plant hynny yn dod o deuluoedd di-Gymraeg.
"Mae wedi bod yn her ond hefyd yn bleser wrth ddenu'r teuluoedd i gefnogi ac i wybod mwy am yr wŷl, mae pawb wedi gweithio mor galed.
"Mae'r holl beth wedi ysgogi rhai i ddysgu'r iaith, ac mae yna nifer o bobl ddi-Gymraeg wedi gwirfoddoli i stiwardio ac i wneud pethau eraill. Yn sicr mae wedi codi ymwybyddiaeth."
Y nod yn lleol oedd codi £300,000 meddai, a hynny achos "maint y boblogaeth". Er na wnaethon nhw gyrraedd y targed mae'n ymfalchïo yn y swm terfynol.
Dywedodd: "Roedd nifer yn amau a fyddwn ni wedi codi £100,000 ond rydym wedi llwyddo i godi dros £200,000. Mae'n anhygoel, ni'n dathlu gwneud cystal.
"Nod yn unig oedd y £300,000 a ni ein hunain wnaeth ei osod gan wybod y byddai'n uchelgeisiol. Ond ar ben yr arian hynny sydd wedi ei gasglu, sef £200,000 rydym wedi sicrhau fod yna nawdd i bob un o'r prif gystadlaethau."
Mae'r trefnwyr hefyd yn falch o gysylltiad yr ardal gyda Evan James a James James, tad a mab o Bontypridd wnaeth gyfansoddi ac ysgrifennu'r anthem genedlaethol gafodd ei chanu gyntaf yng nghapel Tabor, Maesteg, yn 1856.
Maen nhw wedi penderfynu defnyddio llinell o'r anthem, "Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed", i nodi bod addysg Gymraeg ar gynnydd yn yr ardal.
Mae'r hashnod #morfywagerioed yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r achlysur, a bydd y llinell hefyd i'w gweld ar y Goron fydd yn cael ei chyflwyno ddydd Gwener.