Gweledigaeth artist o Gymru mewn arddangosfa yn Fenis

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Huw Thomas aeth i gyfarfod James Richards yn Biennale Fenis a chael blas o'i arddangosfa

Mae arddangosfa yr artist o Gymru, James Richards, wedi agor yn Biennale Fenis.

Y Biennale ydy'r ffair gelf fwyaf o'i math, ac yn denu artistiaid o bedwar ban byd.

Richards sy'n cynrychioli Cymru eleni, yn dilyn yr artistiaid Helen Sear yn 2015 a Bedwyr Williams yn 2013.

Gyda chefnogaeth canolfan gelf Chapter, mae Richards wedi creu arddangosfa sy'n cynnwys gosodiad sain, ffilm mewn sinema a lluniau du a gwyn.

Herio emosiynau

Fe gafodd ef ei enwebu ar gyfer Gwobr Turner yn 2014, ac mae'n enwog am ddefnyddio deunydd archif a chyfansoddiadau newydd i greu gwaith sy'n herio emosiynau ei gynulleidfa.

Ystafelloedd hen gapel wrth ymyl un o gamlesi enwog Fenis sy'n cynnal yr arddangosfa, ac mae presenoldeb Cymru yn Fenis yn cael ei threfnu gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chyllideb o £375,000.

Dwedodd James Richards bod yr arddangosfa yn gyfle i "arbrofi" yn ystod un o'r brif ddigwyddiadau'r byd celf.

"Dydw i ddim yn trio ailddyfeisio'r olwyn gyda phob gwaith, ond bob tro rwy'n gwneud rhywbeth - yn enwedig os yw'n brosiect fawr, comisiwn sy'n mynd i gael ei arddangos ar lwyfan amlwg iawn - dwi eisiau defnyddio hynny fel cyfle i arbrofi ac ehangu fy nhechneg fel artist.

"Yn aml, mae fy ngwaith yn ymwneud â fi fy hun yn dod ar draws rhyw ddeunydd penodol, sy'n gwneud i mi eisiau rhoi cynnig ar weithio gyda hi i greu rhywbeth. Felly rydych yn adeiladu o'r arbrofion hynny, a dechrau meddwl am osod briff i chi eich hun.

"Ond hefyd, yn y cyfamser, byddwch yn dod o hyd i bethau newydd rydych chi'n sylweddoli eich bod rhywsut eisiau edrych arnynt yn fwy manwl drwy'r gwaith."

Mae'r arddangosfa yn digwydd y tu mewn i'r Santa Maria Ausiliatrice, hen gapel sydd bellach yn cael ei defnyddio gan ysgol. Mae'n cynnwys gwaith gan fyfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Fe wnaeth Richards gydweithio gyda'r artist Steve Reinke i greu'r gwaith fideo, tra bod llyfr bach gan Richards a Chris McCormack yn trafod y ffordd mae lleisiau bechgyn yn disgyn yn is yn ystod eu harddegau.

Curadur yr arddangosfa yw Hannah Firth o ganolfan gelf Chapter. Dywedodd bod y sioe yn ganlyniad o "ddeialog blwyddyn o hyd" gyda Richards, a oedd yn cynnwys cyfnod preswyl yn Chapter yng Nghaerdydd a phump wythnos o osod y gwaith yn Fenis.

Popeth ar lori

"Roedd yn rhaid sicrhau bod popeth, i lawr at yr hoelen olaf, yn dod ar lori o Gymru i Fenis. Rydyn ni'n defnyddio asiantaeth yng Nghymru wnaeth gludo y gwaith i ymylon Fenis, lle mae'n rhaid i'r holl draffig ddod i stop," meddai Hannah Firth.

"Wedyn, roedd rhaid llwytho'r holl ddeunydd ar gwch, ac mae'n anhygoel sut gafodd popeth eu pentyrru i fyny fel bocs bach o sardîns cyn gael ei llwytho i'r arddangosfa y pen yma."

Dywedodd y bu'r "ymateb gan ymwelwyr yn wych" hyd yn hyn.

"Un o'r pethau cyffrous a diddorol am waith James Richards yw ei fod yn angerddol iawn - rydych yn teimlo ac yn synhwyro ei waith.

"Mae wedi creu gwaith sain, sydd yn y brif arddangosfa - yr hen gapel - ac y gallwch chi wir deimlo'r gwaith yn eich corff yn ogystal â'ch clustiau.

"Ac yn sicr gyda'r ffilm, mae'n brofiad dwys, esthetig iawn. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn gadael ar ôl cael profiad personol iawn, profiad sydd wedi ysgogi eu synhwyrau hefyd."

Dywedodd Phil George, cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, ei fod yn bwysig iawn i Gymru i fod yn rhan o'r drafodaeth ryngwladol am gelf, a sut mae'n gallu gwneud i ni feddwl am fyd sy'n "anodd, heriol a llawn gwrthdaro".

"Mae James Richards yn llwyddo gwneud hyn par excellence. Mae'n gwneud hyn yn arbennig o dda. Mae'n rhoi teimlad i chi o'r ffordd mae'r bod dynol bregus yn cael ei herio gan rymoedd enfawr bywyd, marwolaeth a'r gymdeithas rydyn ni'n byw ynddi hi.

"Mae'n archwiliad hynod o ddiddorol o'r tensiwn sy'n bodoli ynglŷn â sut mae byw mewn byd anodd iawn."

Bydd gwaith Richards yn cael ei arddangos yn Biennale Celf Fenis tan 26 Tachwedd 2017. Fe fydd y gwaith yn dod i Chapter yng Nghaerdydd flwyddyn nesaf, cyn mynd ar daith.