Cymeradwyo Mesur Iechyd Cyhoeddus yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
mesur iechyd

Bydd hi'n anghyfreithlon i bobl dan 18 gael twll yn eu tafod wedi i'r Cynulliad gymeradwyo mesur newydd.

Mae'r Mesur Iechyd Cyhoeddus hefyd yn cynnig gwahardd ysmygu mewn parciau chwarae a chyflwyno system drwyddedu ar gyfer aristiaid tatŵs.

Cafodd y ddeddfwriaeth gefnogaeth unfrydol ar lawr y Senedd ddydd Mawrth.

Daw hyn 14 mis wedi i'r Cynulliad wrthod mesur tebyg yn dilyn ffrae am led-waharddiad ar e-sigarets.

Fe fydd tyllu'r tafod ac organnau rhyw yn cael ei anghyfreithloni ar ôl i gynnig gwreiddiol Llywodraeth Cymru gael ei ddiwygio yn ystod y broses ddeddfwriaethu.

Roedd nifer o welliannau i'r ddogfen wreiddiol, gan gynnwys:

  • Cynnwys cynnig gan Blaid Cymru i'w gwneud hi'n ddyletswydd ar weinidogion i lunio strategaeth genedlaethol ar leihau a rhwystro gordewdra;

  • Ychwanegu rhannau awyr agored sefydliadau gwarchod plant at y cynnig gwreiddiol i wahardd ysmygu ar dir ysgolion, ysbytai a meysydd chwarae.

Ymysg rhannau eraill y gyfraith mae system drwyddedu ar gyfer tyllu'r corff, tatŵs, electrolysis a nodwyddo.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Fe fethodd fersiwn flaenorol o'r mesur gael ei phasio yn y Cynulliad achos diffyg cefnogaeth i ran ohoni oedd yn cynnig gwahardd e-sigarets mewn rhai llefydd cyhoeddus.

Roedd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn feirniadol o'r syniad, ond roedd disgwyl i rai aelodau o Blaid Cymru gefnogi'r mesur.

Fe newidiodd hynny yn dilyn sylwadau gan y gweinidog wasanaethau cyhoeddus ar y pryd, Leighton Andrews, wnaeth gyfeirio fargen flaenorol gyda Phlaid Cymru fel "cheap date".

Doedd dim sôn am wahardd e-sigarets yn y mesur newydd, a dim gwrthwynebiad gan y gwrthbleidiau.

Fe gefnogodd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr ac UKIP y mesur gyda'r gwelliannau.