Oedi pellach cyn penderfynu ar gynllun Cylchffordd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod unwaith eto'n oedi cyn penderfynu a fyddant yn cefnogi cynllun Cylchffordd Cymru, gan gyhuddo'r datblygwyr o ddarparu gwybodaeth "ddiffygiol" am eu cynlluniau.
Mae'r cwmni sydd y tu ôl i'r cynllun gwerth miliynau o bunnoedd, Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, wedi gofyn am warant o dros £200m o arian cyhoeddus, ffigwr sydd dros hanner cost y prosiect.
Yn wreiddiol, roedd disgwyl penderfyniad ym mis Mawrth, ond mae gweinidogion nawr yn dweud y bydd y broses yn cymryd rhai wythnosau eto.
Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o geisio cuddio newyddion drwg tan ar ôl yr etholiad cyffredinol.
Er mai nawdd preifat fyddai'n ariannu'r trac ger Glyn Ebwy, mae'r datblygwyr yn gofyn i'r llywodraeth am hanner y gost o £425m.
Mewn ateb ysgrifenedig, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, fod swyddogion a chynghorwyr allanol wedi "nodi nifer o fylchau a diffygion yn y wybodaeth sydd wedi ei gynnwys o fewn cais Cylffordd Cymru".
Cafodd y cyflwyniadau terfynol eu derbyn yr wythnos ddiwethaf, fydd yn caniatáu i ddadansoddiad o'r cynlluniau i gael eu cwblhau.
Mae'r cwmni'n dweud eu bod nhw wedi ymateb i bob cais am wybodaeth.
Rhai wythnosau eto
"Mae'r oedi pellach yn golygu fod yr amserlen i gwblhau erbyn mis Mawrth wedi ei fwrw yn ôl", meddai Mr Skates.
"Y cyngor rwyf wedi ei gael ydy y bydd y broses yn cymryd rhai wythnosau eto, cyn y bydd y Cabinet yn ystyried y prosiect cyn gynted â phosib."
Cafodd y wybodaeth ei datgelu mewn ateb i ymholiad gan Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price, a gyhuddodd y Llywodraeth o "ragrith ac oedi".
"Wedi iddyn nhw ddweud yn wreiddiol y bydden nhw'n dod i benderfyniad wedi'r etholiadau lleol ym mis Mis Mai, maen nhw nawr, mae'n ymddangos, yn ceisio oedi'r cyhoeddi tan ar ôl 8 Mehefin - a beio'r cwmni yn y broses," meddai.
"Mae rhywun yn cael ei orfodi i feddwl - ar sail yr ateb hwn - eu bod wedi dod i benderfyniad, ond eu bod yn ceisio cuddio newyddion drwg tan ar ôl yr etholiad."
Ym mis Chwefror, dywedodd Mr Skates y byddai yna astudiaeth fanwl o'r cynlluniau fel rhan o broses fyddai'n cymryd chwe wythnos.
Yn ddiweddarach, dywedodd na fyddai 'na benderfyniad tan ganol Mai oherwydd nad oedd y cwmni wedi darparu'r holl wybodaeth angenrheidiol.
Mae'r cynllun eisoes wedi cael dros £9.3m mewn benthyciadau a grantiau gan Lywodraeth Cymru.
Fis diwethaf, dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru bod yna "wendidau sylweddol" yn y modd y cafodd y nawdd ei gymeradwyo.
Dywedodd yr AC Ceidwadol Russell George: "Mae pobl Glyn Ebwy wedi aros yn rhy hir i Lywodraeth Lafur Cymru wneud penderfyniad ynglŷn â Chylchffordd Cymru ac rwy'n synhwyro fod y stŵr ddiweddaraf wedi ei chydlynu er mwyn mygu newyddion gwael tan ar ôl yr etholiad cyffredinol."
Dywedodd hefyd y dylai'r cyhoedd allu disgwyl i'r £9.3m ddychwelyd i'r pwrs cyhoeddus os na fydd y cynllun yn mynd yn ei flaen.