Gwleidyddion yn cofio Rhodri Morgan yn y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau'r Cynulliad wedi bod yn rhoi teyrngedau i'r cyn-brif weinidog a chyn-arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru, Rhodri Morgan, fu farw yn 77 oed wythnos diwethaf.
Dywedodd ei olynydd, Carwyn Jones ei fod yn un o "gewri'r genedl" ac y bydd ei "enw yn y llyfrau hanes".
Fe gadarnhaodd swyddogion o'r Cynulliad y bydd seremoni angladdol i ddathlu bywyd Mr Morgan am 11.00 ddydd Mercher 31 Mai yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Bydd croeso i'r cyhoedd ddod i'r seremoni yn y Bae, yn ogystal â gwasanaeth claddu yng nghapel y Wenallt, Amlosgfa Thornhill, y diwrnod canlynol.
'Ergyd ofnadwy'
"Roedd yn berson oedd yn gorchymyn parch, ond wrth gwrs, roedd a'i draed ar y ddaear," meddai Mr Jones.
Roedd gwraig Mr Morgan, y AC ar gyfer Gogledd Caerdydd, Julie Morgan yn eistedd yn y siambr yn gwrando ar y teyrngedau.
Wrth siarad am y tro cyntaf ers marwolaeth ei gŵr, dywedodd Julie Morgan fod "colli Rhodri yn ergyd bersonol ofnadwy".
"Roedd e wrth ei fodd â'r lle yma," meddai wrth siarad yn siambr y Senedd.
Ychwanegodd: "Cafodd fywyd hyfryd ac fe wnaeth e fwynhau pob munud."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies ei fod yn ddyn gweddus a bod "ein dyled yn fawr iddo am y ffordd... y gwnaeth sefydlogi pethau, gydag eraill, pan roedd dyfodol y sefydliad yma yn ansicr".
'Torri ei gŵys ei hun'
Ychwanegodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru ei fod yn haeddu cael ei gydnabod fel "dyn y bobl" a'i fod yn hoffi gwneud pethau yn wahanol "mewn ffordd Gymreig unigryw".
"Heb Rhodri Morgan, fyddai Cymru ddim y wlad yr ydi hi heddiw," meddai.
Roedd y gwleidydd Neil Hamilton yn Aelod Seneddol gyda Mr Morgan rhwng 1987 ac 1997.
Yn ôl yr arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, roedd yn cael ei "barchu ar draws y sbectrwm gwleidyddol" ac er yn deyrngar i'w blaid, roedd hefyd yn barod i dorri ei gŵys ei hun.
Mewn araith emosiynol dywedodd yr AC Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol ei fod yn "ffrind i'r rhai ohonom ni o ddosbarth 99".
"Pan fu farw fy mam, fe ysgrifennodd nid yn unig ata i ond at fy nhad. Doedd dad ddim yn gallu credu fod Prif Weinidog Cymru wedi cymryd yr amser i ysgrifennu iddo ynglŷn â'i golled."
Mae cyn-lywydd y Cynulliad, Dafydd Elis Thomas wedi dweud ei fod "wrth ei fodd ein bod yn dathlu ei fywyd yn y lle yma, yn addas yn yr adeilad yma wythnos nesaf".
"Dyma adeilad pobl Cymru. Rhodri Morgan wnaeth greu'r wleidyddiaeth wnaeth hyn yn bosib," meddai.
Ychwanegodd y Llywydd presennol, Elin Jones na fyddai Bae Caerdydd "yn gweld rhywun fel Rhodri Morgan eto", ac na fyddai unrhyw un yn anghofio ei "ddewrder a'i hyder wrth greu ac arwain Llywodraeth Cymru".
Seremoni coffa
Mae swyddogion wedi pwysleisio y dylai unrhyw un sydd am ddod i'r seremoni coffa yn y Senedd gyrraedd yn gynnar er mwyn hwyluso'r gwaith o gynnal gwiriadau diogelwch.
"Er y bydd cyfyngiadau o ran faint o le sydd ar gael yn yr adeilad, bydd modd gwrando ar y gwasanaeth ar yr uchel seinyddion y tu allan ac ar Senedd TV.
"Gan y bydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, mae mesurau diogelwch ychwanegol yng nghyffiniau'r Senedd a allai achosi oedi ar gyfer y traffig a phobl sy'n dod i mewn." meddai llefarydd mewn datganiad.
Bydd llyfr cydymdeimlo yn parhau i fod ar agor yn y Senedd er mwyn i bobl nodi eu teyrngedau personol i'r cyn Brif Weinidog.