Teyrngedau i gyn Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, fu farw yn 77 oed.
Bu'n Brif Weinidog am bron i 10 mlynedd cyn ildio'r awenau ym mis Rhagfyr 2009.
Er ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn Brif Weinidog Cymru, bu hefyd yn Aelod Seneddol Llafur amlwg yn yr 1980 a'r 90au.
Deellir fod Mr Morgan wedi bod yn seiclo ger ei gartref ddydd Mercher pan fu farw.
Mewn datganiad dywedodd heddlu De Cymru fod "swyddogion wedi cael eu galw i ddigwyddiad ger Ffordd Cwrt yr Ala yng Ngwenfô ychydig wedi 17:00 wedi adroddiadau bod dyn wedi cael ei daro'n wael".
Ychwanegodd y datganiad: "Fe ddaeth mwy o heddlu a pharafeddygon yno on yn anffodus roedd y dyn - y cyn brif weinidog Rhodri Morgan - wedi marw yn y fan a'r lle."
Yn y Senedd ym Mae Caerdydd ac yn swyddfa'r Cynulliad ym Mae Colwyn, cafodd llyfrau o gydymdeimlad eu hagor er cof am Mr Morgan, a bu munud o dawelwch gan staff ac Aelodau Cynulliad.
Cafodd baneri ar draws ystâd y Cynulliad eu hanner-gostwng hefyd.
Mae ffigyrau amlwg mewn gwleidyddiaeth a thu hwnt wedi bod yn rhoi teyrngedau iddo, a dywedodd Carwyn Jones bod Cymru "wedi colli ffigwr tadol".
Dywedodd y Prif Weinidog presennol y byddai'n cofio Mr Morgan "fel rhywun wnaeth drosglwyddo Cymru o fod yn ddemocratiaeth newydd, bregus yn 2000, i rywun wnaeth sicrhau bod y Cynulliad yn rhywbeth sydd yng nghanol bywydau pobl Cymru".
"Ni nawr yn y Cynulliad yn aros ar y sylfaen 'naeth Rhodri greu mewn ffordd, fe gymrodd Cymru o le oedd pethau'n anodd iawn i le i ni nawr lle mae pethau wedi newid yn gyfan gwbl."
'Cymeriad hoffus'
Un oedd yn ei adnabod yn dda oedd Ieuan Wyn Jones, oedd yn Ddirprwy Brif Weinidog i Mr Morgan, a dywedodd y byddai'n ei gofio fel "cymeriad hoffus".
"Gweithiais wrth ei ochr am ddwy flynedd a hanner yn Llywodraeth Cymru rhwng 2007 a 2009," meddai.
"Roedd yn hawdd cydweithio ag o, ac mi roedd o'n gymeriad hoffus, teyrngar a hynod wybodus.
"Nid oedd yn hawdd iddo gario rhannau o'i blaid er mwyn ffurfio clymblaid gyda Phlaid Cymru yn 2007 ond safodd Rhodri yn gadarn a lluniasom raglen lywodraeth flaengar."
Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Richard Wyn Jones y bydd Mr Morgan yn cael ei gofio am ei ddylanwad ar ddatganoli.
"Mi gymrodd o'r awenau mewn cyfnod sigledig tu hwnt, ond erbyn i Rhodri Morgan adael fel prif weinidog roedd pethau wedi troi ar eu pennau, ac mae'n anodd rŵan dychmygu Cymru heb ddatganoli.
"Dwi'n meddwl bod llawer iawn o hynny oherwydd y rôl ganolog chwaraeodd Rhodri Morgan," meddai.
"Roedd o'n cael ei ystyried gan bobl Cymru fel un ohonyn nhw - roedd o'n ffigwr diddorol a chymhleth, ond roedd pobl yn gallu uniaethu gydag o."
'Colled aruthrol'
Ychwanegodd Alun Michael, oedd yn Aelod Seneddol yn ardal Caerdydd ar yr un pryd â Mr Morgan, ar raglen Post Cyntaf fore Iau bod Mr Morgan wedi "rhoi oes o wasanaeth i Gymru".
Dywedodd bod Mr Morgan a'i wraig Julie, AC Gogledd Caerdydd yn "gwpl gwleidyddol anferthol".
"Roedd Rhodri bob amser yn wrthwynebol, egnïol ac anodd mewn dadleuon, ond nid yn bersonol - dyna ydw i'n ei gofio fwyaf amdano," meddai.
"Roedd yn glyfar, yn ffraeth, angerddol, difyr, ac yn feistr ar y one-liner - felly'n anodd iawn i'w wrthwynebu."
Dywedodd arweinydd newydd cyngor Caerdydd, Huw Thomas bod y newyddion yn "golled aruthrol i ni fel dinas, fel Plaid Lafur ac fel gwlad".
"Fe wnaeth o gyfraniad aruthrol i ddatblygiad ein gwlad, a byddwn yn colli ei ddylanwad a'i garedigrwydd," meddai.
'Siapio'r Gymru gyfoes'
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws mai Mr Morgan "yn fwy na neb, a siapiodd y Gymru gyfoes".
"O dan ei arweiniad ef, fe welsom Cymru'n tyfu'n genedl hyderus ym mlynyddoedd cynnar datganoli, a'i weinyddiaeth ef a baratôdd y ffordd ar gyfer creu llywodraeth â'i phwerau deddfu ei hun," meddai.
"O safbwynt yr iaith Gymraeg, mae'n debyg mai cyhoeddiad Iaith Pawb yn 2003 a'r cynnydd yn y buddsoddi yn yr iaith Gymraeg yw'r cyfraniad mwyaf arwyddocaol.
"Wrth gyhoeddi'r cynllun gweithredu hwn fe ddangosodd bod Llywodraeth Cymru'n mynd ati'n strategol i gynyddu defnydd o'r iaith Gymraeg a bod yr iaith yn drysor cenedlaethol i'w chadw a'i meithrin."
'Cawr'
Mae nifer wedi rhoi teyrnged i Mr Morgan ar wefannau cymdeithasol hefyd, gydag arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn yn trydar ei fod wedi colli "cyfaill da, a chawr y mudiad Llafur yng Nghymru".
Dywedodd cyn arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, y byddai'n "cofio Rhodri Morgan fel dyn annwyl a chynnes; cwbl ymroddedig i ddatganoli; yn dewis gwasanaethu Cymru yn y Cynulliad yn hytrach na Llundain".
Ymunodd cyn Brif Weinidog Llafur, Tony Blair yn y teyrngedau gan ddweud fod Mr Morgan yn "was rhagorol i Gymru - yn gwmni difyr ac yn wleidydd abl".
Cafwyd neges hefyd gan arweinydd yr SNP yn Yr Alban, Nicola Sturgeon, yn dweud ei fod yn "brif weinidog uchel ei barch yng Nghymru ac yn ddyn hyfryd".
Fe ddisgrifiodd Dafydd Iwan ef fel "cymeriad mawr o wleidydd a Chymro, a gyfrannodd yn helaeth i sefydlu'r Cynulliad".
Fe roddodd y prifardd Meirion MacIntyre Huws deyrnged iddo trwy englyn coffa:
Yn ei enw a'i anian, - Cymro oedd,
Cymro iach a chyfan,
a thad fu'n tendiad y tân
dros achos ei wlad fechan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2017
- Cyhoeddwyd18 Mai 2017