Coleman yn cyhoeddi carfan Cymru cyn gêm Serbia
- Cyhoeddwyd

Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi ei garfan o 26 ar gyfer y gwersyll hyfforddi cyn gêm Serbia fis nesaf.
Mae'r garfan yn cynnwys saith chwaraewr sydd eto i ennill cap dros eu gwlad.
Mae'r chwaraewr 16 oed Ethan Ampadu sy'n chwarae i glwb Caerwysg wedi ei gynnwys yn y garfan.
Ni fydd Gareth Bale a Neil Taylor ar gael i chwarae oherwydd gwaharddiadau, ac mae Andy King a James Collins yn absennol oherwydd anafiadau.
Fe fydd y garfan yn cael ei chwtogi i 23 cyn y gêm yn erbyn Serbia ar 11 Mehefin.

Mae Ethan Ampadu yn fab i gyn-chwaraewr gydag Arsenal, West Brom ac Abertawe, Kwame Ampadu

Dadansoddiad Dylan Griffiths, Sylwebydd Pêl-droed BBC Cymru:
Mae golwg anghyfarwydd ar y garfan yn enwedig heb Gareth Bale, ond mae'n gyfle i Chris Coleman gael golwg ar y talent ifanc - mae 'na gymaint o drafod wedi bod ar Ben Wodburn o Lerpwl, ond un sy'n denu'r sylw ydi Ethan Ampadu o Gaerwysg, 16 oed yn unig, ac yn barod mae o wedi ei gysylltu gyda chlybiau o Uwch Gynghrair Lloegr ac sydd hefyd yn gymwys i chwarae i Loegr .
Heb Bale mi fydd Coleman yn mawr obeithio na fydd Aaron Ramsey yn dioddef unrhyw anaf yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr y penwythnos yma, yn ogystal â Chris Gunter a Danny Ward fydd yn chwarae yn rownd derfynol gêm ail gyfle'r Bencampwriaeth, oherwydd wedi pedair gêm gyfartal yn olynol mae angen buddugoliaeth yn erbyn Serbia sydd ar frig Grŵp D.

Y garfan yn llawn:
Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Dannny Ward (Lerpwl - ar fenthyg i Huddersfield Town), Owain Fon Williams (Inverness Caledonian Thisle).
Amddiffyn: Ben Davies (Tottenham Hotspur), James Chester (Aston Villa), Declan John (Caerdydd), Joe Walsh (MK Dons), Chris Gunter (Reading), Jazz Richards (Caerdydd), Ashley Williams (Everton), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Gethin Jones (Everton), Ethan Ampadu (Caerwysg).
Canol cae: Joe Allen (Stoke City), Dave Edwards (Wolverhampton Wanderers), Tom Lawrence (Leicester City), Emyr Huws (Caerdydd), Lee Evans (Wolverhampton Wanderers), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal).
Ymosod: Marley Watkins (Barnsley), Hal Robson-Kanu (West Bromwich Albion), Tom Bradshaw (Barnsley), Sam Vokes (Burnley), Harry Wilson (Lerpwl), Ben Woodburn (Lerpwl).