Teyrngedau i ddau o'r tri a gafodd eu lladd yn Nhresimwn

Barrie a Lawrence
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Barrie John, 48, o Lynrhedynog a Lawrence Howells, 51, o Borthcawl a dyn arall 34 o Ben-y-bont wedi'r digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau o'r dynion fu farw yn y gwrthdrawiad a laddodd tri ym Mro Morgannwg.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar yr A48 yn Nhresimwn am tua 17:00 ddydd Mawrth yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng dau gerbyd.

Bu farw Barrie John, 48, o Lynrhedynog a Lawrence Howells, 51, o Borthcawl a dyn arall 34 o Ben-y-bont wedi'r digwyddiad.

Dyw'r heddlu ddim wedi cyhoeddi enw'r trydydd dyn.

map o'r lleoliad

Wrth roi teyrnged i Barrie John dywedodd ei deulu: "Rwyf wedi colli fy mab - yr un mwyaf direidus o blith fy mhedwar plentyn.

"Ef oedd yr un i gynhyrfu pethau bob amser gan wthio fy amynedd yn gyson gyda'i ddireidi.

"Eto i gyd, roedd ganddo hefyd ffordd o wneud i mi chwerthin pan oedd angen hynny fwyaf. Doedd bywyd byth yn ddiflas gydag ef.

"Daeth â chymaint o fywyd a chwerthin i mewn i bopeth. Roedd ei egni yn heintus,

"Mae ei golli wedi gadael twll yn fy nghalon na ellir ei lenwi. Rwy'n dal i ddisgwyl clywed ei lais, gweld ei wyneb... rwy'n colli ei synnwyr digrifwch yn fawr. Mae'r tŷ yn wag ond mae ei ysbryd ymhob cornel ac mae hynny'n fy atgoffa o'r amseroedd y gwnaeth i ni chwerthin."

'Wastad yn dy garu'

Ychwanegodd Donna, chwaer Barrie: "Ni allaf roi mewn geiriau sut yr wyf yn teimlo ar hyn o bryd gan wybod na fyddaf byth yn dy weld na chlywed dy lais eto.

"Doedd tyfu fyny 'da ti ddim wastad yn hawdd ond byddwn yn gwneud y cyfan eto.

"Fel chwaer fach roeddwn i wastad yn dy garu di."

Dywedodd teulu Lawrence Howells: "Rydym ni fel teulu wedi'n torri ac yn gofyn am amser i alaru a phrosesu colli Lawrence.

"Mae ein meddyliau hefyd yn mynd allan i deuluoedd eraill sydd wedi'u heffeithio gan y ddamwain drasig hon."

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.