Caffi bar Yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd i ailagor
- Cyhoeddwyd
Mae Canolfan iaith Gymraeg Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, wedi cyhoeddi y bydd y caffi bar yn ail agor ym mis Gorffennaf eleni.
Mae cwmni Milk & Sugar, sydd eisoes yn rhedeg tri chaffi yn y ddinas, wedi cyhoeddi ar Twitter y byddant yn agor cangen yn Yr Hen Lyfrgell ar 3 Gorffennaf.
Fe gaeodd y tenantiaid diwethaf, Clwb Ifor Bach, y caffi bar ym mis Awst y llynedd, tua chwe mis ar ôl i'r ganolfan agor yn swyddogol.
Mae Canolfan Groeso hefyd wedi agor ar lawr gwaelod yr adeilad, sydd hefyd yn gartref i amgueddfa 'Stori Caerdydd', siop, ac ystafelloedd cyfarfod.
Fis Tachwedd diwethaf gofynnodd y ganolfan am help gan Gyngor Caerdydd i sicrhau dyfodol y ganolfan, ac yn gynharach eleni cafodd adroddiad annibynnol ei gomisiynu i greu cynllun busnes mwy hyfyw.
Dywedodd Nia Ramage, cyfarwyddwr yr Hen Lyfrgell: "Da ni wrth ein bodda', 'da ni wedi bod yn gweithio tu ôl i'r lleni ers dechrau'r flwyddyn i ffeindio'r partner cywir i gymryd drosodd y caffi bar yn yr Hen Lyfrgell.
"O'r diwedd mae popeth wedi ei gytuno, ac mi fedrwn ni gyhoeddi y bydda ni'n ail agor ddechrau mis Gorffennaf."