Diwrnod i gofio Eifion Gwynne
- Cyhoeddwyd
Mae oddeutu pedair mil o bobl wedi cyrraedd clwb rygbi Aberystwyth ar gyfer diwrnod arbennig i gofio am y diweddar Eifion Gwynne.
Yn ystod prynhawn Sul bu nifer o arwyr y byd rygbi yn chwarae mewn gêm i gofio amdano.
Roedd tîm Eifion Gwynne XV yn chwarae yn erbyn Arwyr Cymru XV.
Gyda'r nos bydd Meic Stevens #band6 yn canu a bydd ocsiwn yn cael ei chynnal . Ymhlith y pethau sydd ar werth mae crysau wedi eu harwyddo gan dimau'r Gleision, Y Dreigiau, Y Gweilch ac esgidiau Justin Tupiric.
Bu farw Eifion Gwynne, 41 oed, o Aberystwyth yn Sbaen ar 22 o Hydref wedi iddo gael ei daro gan gar. Roedd e wedi teithio i Malaga er mwyn mynd i angladd tad ffrind.
Roedd Eifion yn drydanwr poblogaidd yn Aberystwyth ac yn un o gyn-chwaraewyr timau Llanymddyfri ac Aberystwyth.
Chwaraewyr o'r ddau dîm fu'n chwarae yn nhîm Eifion Gwynne ac ymhlith arwyr y tîm arall roedd Lee Byrne, Gareth Cooper, John Davies a Dafydd Jones.
Mae Eifion yn gadael gwraig Nia a thri o blant Mabli, Modlen ac Idris. Roedd e hefyd yn frawd i naw o frodyr a chwiorydd ac yn fab i Anne a'r diweddar David.
"Mae pawb yn tŷ ni yn edrych mlaen yn fawr iawn at Ddiwrnod Dadi! Byse Eifion wrth ei fodd!", meddai Nia mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol cyn y digwyddiad.
Efallai nad yw'n syndod bod y canwr Meic Stevens yn dod gan fod Eifion a Nia yn hoff o'i ganeuon. Cafodd un o ganeuon Meic Stevens 'Y brawd houdini' ei chwarae ar ddiwedd angladd Eifion.
Bydd yr elw a wneir o'r diwrnod yn mynd at Gronfa Goffa Eifion Gwynne.
Y penwythnos diwethaf cafodd £1,500 ei godi at y gronfa wedi i nifer fod yn rhwyfo ar beiriant am bedair awr ar hugain yn y gampfa lle arferai Eifion hyfforddi.
"Roedd y cyfan yn hollol wych," meddai Nia, ac yn ôl Idris y mab, Cross Fit yw'r peth gorau erioed."