'Tîm rygbi Cymru i ddysgu gan Y Scarlets?'

  • Cyhoeddwyd
Scarlets celebrationFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Scarlets yn dathlu eu buddugoliaeth yn Nulyn

Gallai tîm rygbi Cymru efelychu patrwm chwarae y Scarlets, yn ôl hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac, wedi'r fuddugoliaeth yn rownd derfynol y Pro 12 yn Nulyn nos Sadwrn.

Llwyddodd y Scarlets i drechu Munster o 46-22 gan sicrhau chwe chais.

Dyma'r trydydd tymor i Pivac fod wrth y llyw ac yn ei ôl e dylai Cymru efelychu patrwm chwarae Y Scarlets.

"Mae gennym athletwyr gwych yng Nghymru - nid dim ond ymhlith y Scarlets ond ymhlith Y Gweilch, Y Gleision a'r Dreigiau hefyd."

'Ffrwyth llafur tair blynedd'

Yn ôl Pivac a ddaeth o Auckland mae llwyddiant Y Scarlets yn ffrwyth gwaith tair blynedd.

"Mi gymerodd hi rhyw ddwy flynedd i ni gael y tîm roeddwn i'n ei ddymuno i'w gael."

Nôl ym mis Medi roedd llwyddiant yn edrych braidd yn amhosib wedi i'r Scarlets golli eu tair gêm gyntaf yn y Pro 12.

"Ond wedi dweud hynny cafodd taith Seland Newydd effaith ar y chwarae ddechrau'r tymor - a hefyd roedd cael Jonathan Davies a Rhys Patchell yn ymuno â ni yn lot o help."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cais Liam Williams a hynny wrth iddo ffarwelio â'r Scarlets

Ffarwelio

Bydd yn rhaid i'r Scarlets chwilio am chwaraewyr newydd ar gyfer y tymor nesaf wrth i Liam Williams symud at y Saracens a DTH van der Merwe fynd i Newcastle. Sgoriodd y ddau ddydd Sadwrn yn rownd derfynol y Pro 12.

"Bydd cael rhywun cystal â Liam Williams yn anodd," meddai Pivac, "petai gennym bymtheg ohono fe byddai'n amhosib ein trechu.

"Ry'n yn mynd i'w fethu yn ofnadwy ond mae 'da fi deimlad efallai y bydd e nôl yn y dyfodol.

"Gobeithio yn wir y caiff e gyfle wrth fynd ar daith Y Llewod - mi all e gynnig i Warren Gatland yr union beth y mae'n chwilio amdano."

Yn y cyfamser, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau bod Rhys Patchell a Rhodri Jones o'r Gweilch wedi eu galw i wersyll ymarfer Cymru ym Mae Colwyn gan bod Phil Dollman a Samson Lee wedi'u hanafu dros y penwythnos

Daeth Y Scarlets adre o Iwerddon ddydd Sul a go brin bod y dathlu ar ben eto.