Busnesau yn gallu elwa o'r wŷl bêl droed yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Gymru a Chaerdydd wneud y gorau o'r cyfleoedd yn sgil cynnal rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr, medd un arbenigwr busnes.
Fe fydd miloedd o gefnogwyr, ynghyd â ffigyrau mawr o fyd busnes, yn y brifddinas ar gyfer y gêm rhwng Real Madrid a Juventus nos Sadwrn.
Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans y dylai llywodraethau'r DU a Chymru fod yn "gwasgu dwylo bob un busnes" er mwyn annog buddsoddiad.
Fe fydd 170,000 o gefnogwyr yn teithio i Gaerdydd a'r amcangyfrif yw y byddan nhw'n gwario tua £45m yng Nghaerdydd.
Yn ôl yr Athro Jones-Evans, arbenigwr mewn entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol De Cymru fe fydd llygaid y byd ar Gymru.
"Mae'n fwy 'na hynny mewn gwirionedd oherwydd dyma ddigwyddiad chwaraeon mwya'r flwyddyn sy'n cael ei ddarlledu i 200 miliwn o bobl mewn 200 o wledydd.
"Mae hynny'n mynd i gael effaith enfawr ar broffil Caerdydd yn rhyngwladol, ond yn bwysicach, Cymru."
Dychwelyd fel twristiaid
Dywedodd mai'r effaith hir dymor yw'r peth mwyaf pwysig, gydag awyrennau preifat a llongau moethus yn dod â math gwahanol o ymwelwyr allai fod yn fuddsoddwyr y dyfodol.
"Rhaid i Gymru wneud y gorau o'r cyfle," meddai.
Ychwanegodd fod potensial y gallai rhai o'r cefnogwyr benderfynu dychwelyd i'r brifddinas fel twristiaid y tro nesaf.
"Ry'n ni'n dangos dinas mor wych yw Caerdydd."
"Meddyliwch am y ffeinal - mae un o chwaraewyr gorau'r byd, sy'n Gymro, yn chwarae i Real Madrid ac mae Cymro arall, John Charles, yn dal yn eicon i gefnogwyr Juventus.
"Allech chi ddim cael cyfle gwell i ddangos y brifddinas," meddai.
"Fe fydd pobl sydd erioed wedi bod yma o'r blaen, ac efallai erioed wedi ystyried hynny chwaith, yn cyrraedd ac mae hynny'n fonws mawr i'r ddinas."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2017