Rhybudd i dowtiaid tocynnau cyn ffeinal pêl droed
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi rhybuddio y bydd towtiaid tocynnau ar gyfer ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn cael eu targedu drwy ddefnyddio technoleg adnabod wynebau.
Mae pob tocyn ar gyfer y gêm rhwng Juventus a Real Madrid yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru nos Sadwrn wedi eu gwerthu.
Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Steve Furnham, o Heddlu De Cymru, y bydd cyfleusterau adnabod wynebau awtomatig (AFR) yn cael eu defnyddio i olrhain troseddwyr a towtiaid adnabyddus.
Ychwanegodd fod y person cyntaf wedi ei arestio ddydd Mercher gan ddefnyddio'r dechnoleg AFR.
Cyhoeddwyd yn gynharach eleni y bydd wynebau yn cael eu sganio yn y stadiwm ac yng ngorsaf reilffordd Caerdydd Canolog.
"Mae rhwydwaith cudd-wybodaeth arwyddocaol wedi sefydlu, system sy'n cysylltu holl heddluoedd y wlad," meddai Mr Furnham.
Cynllun peilot
"Rydym wedi bod yn siarad â chydweithwyr yn Sbaen a'r Eidal gyda chefnogwyr o'r gwledydd hyn yn cyrraedd yma.
"Mae'r system AFR yn un newydd sbon i ni, ac mae hwn yn gynllun peilot, sy'n cael ei dreialu am y tro cyntaf.
"Rydym wedi llwytho lluniau wynebau troseddwyr a phobl rydym yn amau o fod wedi cyflawni troseddau megis towtio tocynnau, ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio ar y diwrnod."
Mae tua 24,500 o'r 66,000 o docynnau oedd ar gael ar gyfer y rownd derfynol wedi mynd i noddwyr.
Mae cefnogwyr Juventus a Real Madrid wedi derbyn 18,000 o docynnau, tra bod y gweddill wedi eu gwerthu i'r cyhoedd.
Mae disgwyl i 100,000 o bobl ychwanegol ymweld â'r brifddinas ac mae gŵyl i gefnogwyr wedi ei sefydlu ym mae Caerdydd.
Ar draws y brifddinas mae ffyrdd wedi eu cau, dolen allanol a'r cyngor i bobl yw i gadw golwg ar gyfer unrhyw ddiweddariadau. Mae rhai ffyrdd wedi eu cau yn gynt nag oedd wedi ei fwriadu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2017