Angen gwneud mwy i gleifion arthritis gwyngol, medd arbenigwr

  • Cyhoeddwyd
YVONNE spencer

Mae angen gwneud mwy i helpu pobl sy'n byw gyda chyflwr arthritis gwynegol, yn ôl un arbenigwr yn y maes.

Daw'r alwad wrth i ystadegau awgrymu bod y nifer o bobl yng Nghymru sydd yn gorfod mynd i weld arbenigwr oherwydd eu bod nhw mewn cymaint o boen wedi cynyddu'n arw.

Mae bron i 500,000 gyda'r salwch yng Nghymru, ond mae rhai'n honni bod cyflyrau eraill yn cael blaenoriaeth.

Fe gafodd Yvonne Spencer, 54, o Hwlffordd, Sir Benfro ddiagnosis bum mlynedd yn ôl, ac mae pethau syml, fel gwneud paned yn rhy boenus

"Sai'n gwneud pethau fel agor tins, sai'n gallu defnyddio'r tegell, na choginio gyda sosban, rhag ofn i mi dollti dwr berw ym mhobman.

"Dwi wedi blino, mae'n boenus, dwi'n gwneud llai o oriau yn y gwaith, sai'n neud dim lot o gwmpas y tŷ."

Sefydlu grŵp

Yn ôl y teulu does 'na ddim digon o gefnogaeth i bobl eraill sydd yn gorfod byw a'r cyflwr.

Felly mae Ms Spencer wedi gweithredu a sefydlu grŵp i gefnogi pobl yn y Gorllewin:

"Doedd dim digon o wybodaeth genna i, dim ond 'booklets'.

"Bu'n rhaid i mi wneud y gwaith ymchwil fy hun, felly dyna wnes i a sefydlu'r grŵp cymorth yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Yvonne Spencer wedi gweithredu a sefydlu grŵp i gefnogi pobl yn y Gorllewin sy'n dioddef o'r cyflwr

Ym Mis Mai 2016, fe gafodd 3,021 eu hanfon gan feddygon teulu i weld arbenigwr, cynnydd sylweddol o'r 1,810 gafodd yr un cyngor ym mis Mai 2012.

Ar gyfartaledd, mae 28% o gleifion Cymru yn cael gweld arbenigwr o fewn tair wythnos, o'i gymharu â 38% yng ngweddill gwledydd Prydain o fewn yr un amser yn ôl ffigyrau gan y Gymdeithas Rhiwmatoleg Prydain a NRAS.

Mae un arbenigwr yn y maes yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy i wella'r cymorth sydd ar gael, Dywedodd Dr Rhian Goodfellow, Cadeirydd Cymru Cymdeithas Rhiwmatoleg Prydain:

"Mae'r gofal yn gallu yn bod yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru.

"Ond fel arfer mae yna wastad lle i wella, gallwn i wastad wneud pethau yn well," meddai.

'Codi ymwybyddiaeth'

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud mai'r byrddau iechyd sy'n gyfrifol am wasanaethau i bobl sydd ag arthritis gwynegol, a'u bod wedi cyflwyno newidiadau i godi ymwybyddiaeth a gwella'r sefyllfa i gleifion.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gennym nifer o gamau gweithredu ar y gweill i godi ymwybyddiaeth ac i helpu pobl i leihau eu risg o ddatblygu'r cyflyrau hyn.

"Yn achos pobl sydd â chyflyrau o'r fath, y nod yw sicrhau bod yr asesiad a'r diagnosis yn digwydd cyn gynted â phosib a bod gofal yn cael ei ddarparu mor gyflym ac mor lleol ag y bo modd."